O fis Tachwedd bydd Tŷ Pawb yn cynnig llety i arddangosfa ddwyflynyddol Print Rhyngwladol.

Yn dilyn galwad agored ar gyfer gwaith celf seiliedig ar brint yn gynharach eleni, mae dros 85 artist o 8 gwlad wahanol gan gynnwys yr Unol Daleithiau, Canada, Japan wedi eu dewis ar gyfer yr arddangosfa gan banel o feirniaid.

Bydd yr arddangosfa yn cael ei lansio ddydd Gwener, Tachwedd 15 pan fydd gwobrau yn cael eu dyfarnu mewn chwe chategori, gan gynnwys Gwobr o £1,000 gan y Beirniaid. Bydd seithfed gwobr, £500 ar gyfer Dewis y Bobl, yn cael ei dyfarnu ar ddiwedd yr arddangosfa yn dilyn pleidlais gyhoeddus.

OS YDYM NI’N CAEL SETLIAD GWAEL, BYDD YN RHAID I NI YSTYRIED TORIADAU PELLACH. DWEUD EICH DWEUD…

Stiwdio print yn yr oriel

Ynghyd â Print Rhyngwladol mae’r artist Pam Newall wedi cydweithio gyda Tŷ Pawb a Designs in Mind Croesoswallt i ddatblygu stiwdio print byw yn yr oriel.   O dan y teitl Gwneud Print bydd y stiwdio yn creu dyluniadau print fydd yn ymddangos ar gynnyrch ar gyfer eu gwerthu drwy JOLT Designs in Mind a Siop//Shop yn Tŷ pawb.

Fel rhan o Creu Print, mae Pam Newall hefyd wedi curadu archif o brintiau a thaflenni sy’n cynrychioli cyfnod penodol yn y 1970au. Mae Stiwdio Printiau Bradford wedi bod yn hael a rhoi benthyg yr archif gan Dr Robert Galeta, Darlithydd a Pam Brooks, Darlithydd mewn Astudiaethau Beirniadol a Chyd-Destunol yn Ysgol Gelf Bradford.

Dathliad o dreftadaeth brint Wrecsam

Dywedodd cydlynydd yr arddangosfa Karen Whittingham: “Rydym yn falch o gynnig llety i’r Printiau Rhyngwladol ar gyfer ei 8fed argraffiad. Gyda’i gilydd, mae Print Rhyngwladol a Gwneud Print yn dangos sut gall Tŷ Pawb gasglu apêl lleol a rhyngwladol yr un pryd.”

Dywedodd Aelod Arweiniol Pobl – Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedau: y Cyng. Hugh Jones, “Mae gan Wrecsam dreftadaeth printiau sylweddol, bydd y pwysigrwydd yn cael ei ddathlu gyda’r ddwy arddangosfa sy’n cyrraedd yn rhyngwladol ac wedi’i sefydlu’n lleol.

Yn ystod Print Rhyngwladol bydd yna nifer o ddigwyddiadau cyhoeddus, gan gynnwys nosweithiau ‘Print a Prosecco’ a’r Symposiwm Print blynyddol gan y Ganolfan Print Rhyngwladol.  Bydd mwy o wybodaeth am y digwyddiadau hyn yn cael ei rhyddhau’n fuan.

Ymunwch â ni ar gyfer y digwyddiad lansio

  • Bydd y digwyddiad lansio cyhoeddus am ddim ar gyfer Print International 2019 a’r arddangosfa Make Print yn cael ei gynnal ddydd Gwener, Tachwedd 15 rhwng 6pm ac 8pm.
  • Mae’r arddangosfeydd yn rhedeg rhwng Tachwedd 16 a Chwefror 1 2020.
  • Yn ystod Print Rhyngwladol bydd nifer o ddigwyddiadau cyhoeddus, gan gynnwys nosweithiau ‘Print a Prosecco’ a’r Symposiwm Argraffu blynyddol a gynhelir gan y Ganolfan Argraffu Ranbarthol. Bydd mwy o wybodaeth am y digwyddiadau hyn yn cael ei ryddhau yn fuan.

Dilynwch Tŷ Pawb ar:
Facebook
Twitter
Instagram

Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb