Bu i gyfarfod ar hap arwain at fenter newydd cyffrous ar gyfer Lisa Fox, dylunydd graffeg fewnol y cyngor.
Efallai eich bod yn gwybod bod gan Lisa ei chwmni ei hun – Fox & Boo. Mae’n gwmni nwyddau i’r cartref, rhoddion a chyfarch, yn gwerthu cynnyrch mewn marchnadoedd crefftwyr ar draws Canolbarth Lloegr a gogledd-orllewin Lloegr, ac ar draws y byd yn ei siop ar-lein. Ond eleni, mae pethau wedi tyfu a byddwch yn gweld siocled gyda phecyn wedi’i ddylunio gan Lisa mewn siopau ar draws y wlad, gan gynnwys John Lewis!
Ewch yn ôl i fis Tachwedd y llynedd pan fu i Lisa gyfarfod Lori Whinn, ‘siocledwr hap a damwain’ a chyfarwyddwr Coco Pzazz, wedi’i leoli ym Mhowys, mewn Ffair Nadolig tri diwrnod yng Nghoed y Dinas, Y Trallwng.
Roedd Lori wrth ei bodd gyda dyluniadau Fox & Boo, ond y cardiau Nadolig eco (wedi’u hargraffu ar gerdyn ailgylchadwy a’u cyflenwi mewn bag seloffen bioddiraddiadwy) a ddechreuodd y sgwrs ac a arweiniodd at gyfle newydd i Fox & Boo.
Canfu’r entrepreneuriaid eu bod yn rhannu’r un ymrwymiad i leihau effaith y mae eu busnesau yn eu cael ar yr amgylchedd, felly ar ôl llawer o gynllunio a gweithio’n hwyr i’r nos, mae Lisa a Lori wedi dod at ei gilydd i gydweithio ar bedwar bar siocled newydd sy’n cael eu cyflwyno mewn pecynnu bioddiraddiadwy sy’n cynnwys dyluniadau Fox & Boo.
Mae Lisa wrth ei bodd: ‘Bydd gweithio gyda Coco Pzazz yn rhoi mwy o amlygrwydd i’n brand a’n cyflwyno i gynulleidfaoedd newydd. Rydym yn gyffrous iawn am y cydweithio hyn, ac eisoes yn gweithio ar y pedwar dyluniad nesaf’.
Lansiwyd y dyluniadau cyntaf yn Top Drawer (sioe masnachu rhoddion) yn Olympia, Llundain ar ddechrau mis Ionawr, a chawsant dderbyniad da, ac mae’r barau siocled newydd ar y ffordd i werthwyr yng ngogledd yr Alban a de Lloegr, gan gynnwys John Lewis a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Mae gwefan Lisa, foxandboo.com llawn nwyddau hyfryd i’r cartref a rhoddion, felly ewch i gael golwg, a chadwch lygad allan am ei chynnyrch pan fyddwch mewn siop roddion ar hyd a lled y wlad.