Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Lladrad drwy dynnu sylw yn Llai – byddwch yn wyliadwrus o alwyr digroeso
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Lladrad drwy dynnu sylw yn Llai – byddwch yn wyliadwrus o alwyr digroeso
Arall

Lladrad drwy dynnu sylw yn Llai – byddwch yn wyliadwrus o alwyr digroeso

Diweddarwyd diwethaf: Awst 16, 2019 4:15 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Distraction theft fraud scam
RHANNU

Ar 12 Awst fe gafodd Heddlu Gogledd Cymru wybod am gwpl oedrannus a ddioddefodd ladrad drwy dynnu sylw.

Fe ddigwyddodd hyn yn Llai, Wrecsam, wrth i’r cwpl dalu tri dyn a oedd wedi bod yn ‘gweithio ar eu simdde’ – ond, yn ôl tystion, ni welwyd yr un ohonynt yn gweithio ar y to.

Wrth i’r dioddefwyr dalu am y ‘gwaith’, aeth un o’r dynion i fyny’r grisiau a dwyn arian o’r ystafell wely.

Roedd y dynion, a oedd yn siarad gydag acenion Gwyddelig, wedi cynnig dangos fideo i’r cwbl oedrannus o’r ‘gwaith’ a wnaethpwyd ond, ar ôl dweud eu bod yn nôl y fideo o’r fan, bu iddyn nhw yrru i ffwrdd i gyfeiriad yr Wyddgrug. Yn ôl y disgrifiadau a gafwyd, mae gan un o’r dynion farf fawr.

PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…

Cyngor Safonau Masnach yw peidio â sgwrsio gyda phobl sy’n dod at garreg eich drws. Os yw rhywun annisgwyl yn galw, neu fusnes sy’n honni eu bod yn gwneud gwaith i gymydog, peidiwch â dechrau sgwrsio efo nhw.

Efallai y byddant yn dweud bod problem gyda’ch to, simnai, cwteri, ffenestri neu goed. Peidiwch â’u coelio. Caewch y drws.

Mae’n rhan o dwyll/sgam i chi roi arian iddyn nhw. Nid yw busnesau dilys yn galw’n ddigroeso nac yn gofyn am arian ymlaen llaw. Yn aml iawn, dydi’r gwaith sy’n cael ei amlygu ddim angen ei wneud a phan fo’r troseddwyr hyn yn gwneud unrhyw waith mae’r gwaith yn wael ac yn aneffeithiol.

I roi gwybod am alwyr digroeso, ffoniwch Wasanaethau Cwsmeriaid Cyngor ar Bopeth ar 03454040505, sy’n cofnodi pob achos ar gyfer Safonau Masnach.

Mae yna ddeddfwriaeth i’ch amddiffyn chi rhag rhuthro i wneud penderfyniadau gwael ar garreg eich drws. Mae’n rhaid i fusnesau roi 14 diwrnod i chi ystyried a oes arnoch chi eisiau iddyn nhw wneud gwaith, ac fe ddylech chi gymryd yr amser hwnnw i dderbyn dyfynbrisiau eraill neu holi’ch teulu. Yr unig eithriad yw gwaith brys. Peidiwch ag ildio’ch hawliau.

Byddwch yn wyliadwrus a chadwch olwg ar eich cymdogion oedrannus, a chofiwch roi gwybod am unrhyw beth amheus, gan gadw cofnod a disgrifiad o’r cerbydau a’r bobl. Peidiwch â chadw gormod o arian yn eich tŷ, defnyddiwch fanciau/swyddfeydd post, a thalwch drwy drosglwyddiadau banc neu sieciau yn hytrach nag arian parod.

Os hoffech chi wneud cwyn neu dderbyn cyngor am nwyddau neu wasanaethau rydych chi wedi’u prynu, cysylltwch â Gwasanaethau Cwsmeriaid Cyngor ar Bopeth ar 03454 040505.

Neu, os oes arnoch chi eisiau rhoi gwybod am rywbeth amheus, cysylltwch â Gwasanaethau Cwsmeriaid Cyngor ar Bopeth ar 03454 040505 neu Heddlu Gogledd Cymru ar 101.

Mae Safonau Masnach Wrecsam yn parhau i weithio mewn partneriaeth â Heddlu Gogledd Cymru i amddiffyn a diogelu preswylwyr a chymunedau.

Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.wrexham.gov.uk/welsh/education_w/school_uniform_grant_w.htm “] YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Cardboard paper recycling box boxes Dyma sut i ailgylchu bocsys cardfwrdd yn gywir
Erthygl nesaf Trysorau, crefftau a ffilmiau Trysorau, crefftau a ffilmiau

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysg Y cyngor
Medi 4, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 4, 2026
Penley Hospital
Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna
Arall Pobl a lle
Medi 3, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Yorke Street
ArallPobl a lle

Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr

Medi 1, 2026
Blue emergency services light
ArallPobl a lle

Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys

Medi 1, 2026
Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
Mayor at the Welsh Blood Service donation clinic
ArallPobl a lle

Maer yn rhoi gwaed i gefnogi ymgyrch rhoi

Awst 26, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English