Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Llifoleuadau newydd i fyny – archebwch rŵan!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Llifoleuadau newydd i fyny – archebwch rŵan!
Busnes ac addysgPobl a lle

Llifoleuadau newydd i fyny – archebwch rŵan!

Diweddarwyd diwethaf: Medi 2, 2019 11:49 am
Rhannu
Darllen 2 funud
3G football pitches
RHANNU

Ychydig yn ôl, fe gyhoeddom fod llifoleuadau newydd am gael eu gosod ar y cae pob tywydd yn Ysgol Clywedog, ar Ffordd Rhuthun.

Rŵan, mae gennym ni newyddion hyd yn oed gwell – mae’r gwaith wedi’i orffen!

Mae hyn yn golygu y bydd y cae rŵan yn gallu cynnal gemau gyda’r nos a hyfforddiant fel ei gilydd – hyd yn oed ar ôl i nosweithiau’r hydref ddechrau byrhau.

PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…

Rydyn ni rŵan yn cymryd archebion ar gyfer unrhyw hyfforddiant a gemau dan lifoleuadau gan ddechrau o 1 Medi.

Ar gyfer y clybiau hynny sydd ymhellach i ffwrdd, mae archebion hefyd ar gael ar gyfer y caeau 3G â llifoleuadau yn y Waun, Morgan Llwyd a Queensway.

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol dros Wasanaethau Ieuenctid a Gwrth-dlodi, gyda chyfrifoldeb am Hamdden: “Er y gall ymddangos ychydig yn gynnar i ni fod yn hyrwyddo pêl-droed dan lifoleuadau, mae nifer o archebion eisoes wedi’u cymryd ar gyfer gemau a hyfforddiant dan lifoleuadau ar y cae pob tywydd yn Ysgol Clywedog, a gwyddom nad yw’r galw ond yn debygol o gynyddu wrth i’r hydref agosáu.

“Mae’r llifoleuadau newydd bellach yn eu lle, felly byddai’n syniad da i glybiau a grwpiau chwaraeon gael eu harchebion i mewn rŵan.”

Ble ydw i’n archebu?

I archebu unrhyw un o’r caeau, cysylltwch â’ch canolfan hamdden a gweithgareddau agosaf.

Gellir archebu trwy gysylltu â:

  • Canolfan Hamdden a Gweithgareddau’r Waun: 01691 778 666
  • Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Clywedog: 01978 262 787
  • Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Morgan Llwyd: 01978 314 693
  • Stadiwm Queensway: 01978 355 826

Fel arall, gallwch archebu trwy wefan Freedom Leisure.

Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.wrexham.gov.uk/welsh/education_w/school_uniform_grant_w.htm “] YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Ail-wynebu cylchfan Ail-wynebu cylchfan
Erthygl nesaf green bin Tâl am Finiau Gwyrdd – y sefyllfa ar hyn o bryd

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Recycling
Amseroedd gweithredu’r canolfannau ailgylchu
Y cyngor
Medi 25, 2026
Ysgol I D Hooson
Gwaith yn Ysgol I D Hooson yn dechrau’n swyddogol
Busnes ac addysg
Medi 25, 2026
The People's Emergency Briefing – gallai'r ffilm hon fod yn un o'r pethau pwysicaf y byddwch chi'n ei wylio erioed
The People’s Emergency Briefing – gallai’r ffilm hon fod yn un o’r pethau pwysicaf y byddwch chi’n ei wylio erioed
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 24, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein
Y cyngor
Medi 24, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

All Saints School Library Opening
Busnes ac addysgPobl a lle

Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn agor drysau ei llyfrgell newydd

Medi 23, 2026
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Pobl a lle

Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell

Medi 22, 2026
Gresford memorial wheel
Pobl a lle

Colli 266 o fywydau yn enw glo – Trychineb Gwaith Glo Gresffordd 92 mlynedd yn ddiweddarach

Medi 22, 2026
Horse Riders
ArallPobl a lle

Cyngor ar gyfer gyrru ystyriol o gwmpas marchogion

Medi 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English