Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Llwybr pili-palod yng nghanol y ddinas yn cynnig gweithgareddau hwyliog i blant dros yr haf
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Digwyddiadau > Llwybr pili-palod yng nghanol y ddinas yn cynnig gweithgareddau hwyliog i blant dros yr haf
DigwyddiadauPobl a lle

Llwybr pili-palod yng nghanol y ddinas yn cynnig gweithgareddau hwyliog i blant dros yr haf

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 17, 2026 1:57 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Butterfly trail entries displayed at Tŷ Pawb
RHANNU

Yn galw ar bob plentyn – mae deg pili-pala wedi’u gwasgaru o amgylch canol dinas Wrecsam, ac mae angen eich help chi arnon ni i ddod o hyd iddyn nhw. Allwch chi ddefnyddio’ch map i ddatrys y cliwiau a dod o hyd i’r pili-palod cudd?

O 17 Gorffennaf, gall plant gymryd rhan mewn helfa pili-palod hwyliog o amgylch canol dinas Wrecsam. I gymryd rhan, yr unig beth sydd angen iddyn nhw ei wneud yw casglu map am ddim o Ganolfan Gwybodaeth i Ymwelwyr Wrecsam sydd â chliwiau y gallan nhw eu datrys i’w helpu i ddod o hyd i bob un o’r deg pili-pala.

Mae’r cynllun yn cael ei ariannu gan gynllun grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru sy’n ymwneud â chynyddu bioamrywiaeth a chysylltu pobl â natur.

Cafodd y pili-palod eu creu gan blant mewn ysgolion cynradd ledled Wrecsam, ac o’r holl geisiadau, mae deg enillydd wedi’u dewis i’w defnyddio yn yr helfa pili-palod yng nghanol y ddinas yn ystod yr haf.

Ond gan fod cymaint o ddyluniadau gwych, mae’r holl bili-palod eraill yn cael eu harddangos yng nghanolfan Tŷ Pawb, lle rydyn ni hefyd wedi sefydlu gorsaf bili-palod i’r cyhoedd addurno eu pili-palod eu hunain, yn debyg i’r ceisiadau y gallwch chi eu gweld o amgylch yr ystafell.

Felly, os ydych chi’n teimlo’n greadigol, galwch heibio i ganolfan Tŷ Pawb i weld beth allwch chi ei ddylunio.

Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, yr Aelod Arweniniol yr Economi, Busnes a Thwristtiaeth: “Mae’r llwybr glöynnod byw gwych yn ddathliad o greadigrwydd, ac ymrwymiad Wrecsam i gefnogi bioamrywiaeth drwy Gymru yn ei Blodau. Rydyn ni’n gobeithio y bydd pobl yn mwynhau cymryd rhan dros yr haf.”

Yr Arolwg Pili-palod Mawr

Datblygwyd y prosiect hwn i gefnogi’r Arolwg Pili-palod Mawr, sef arolwg DU gyfan lle gallwch chi helpu i asesu iechyd ein hamgylchedd yn syml trwy gyfrif pili-palod.

I gymryd rhan, yr unig beth sydd angen i chi ei wneud yw cyfrif pili-palod am 15 munud yn ystod tywydd llachar (heulog yn ddelfrydol). Gallwch gyflwyno cofnodion trwy gydol misoedd Gorffennaf ac Awst.

Ar yr adeg hon o’r flwyddyn, mae’r rhan fwyaf o bili-palod yn y cyfnod llawn dwf o’u cylch bywyd, felly maen nhw’n fwy tebygol o gael eu gweld.

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd: “Rydyn ni’n annog ein trigolion i gymryd rhan yn yr Arolwg Pili-palod Mawr, sy’n hynod o ddefnyddiol ar gyfer cadwraeth. Mae croeso i gofnodion o bob lleoliad, felly gallwch gyfrif mewn parciau, tiroedd ysgol, gerddi, caeau neu goedwigoedd.”

Gallwch ddysgu mwy ar wefan yr Arolwg Pili-palod Mawr.

Cwblhewch ein harolwg a helpwch i lunio dyfodol gwasanaethau ieuenctid yn Wrecsam – Newyddion Cyngor Wrecsam

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

Rhannu
Erthygl flaenorol y sgwrs genedlaethol: dywedwch eich dweud am y wlad yr hoffech gweld Dweud eich dweud yn y sgwrs genedlaethol
Erthygl nesaf Bethan, Noah a Gill “Gwasanaeth ymroddedig i blant, teuluoedd a staff” – athrawes sydd wedi gwasanaethu am 43 mlynedd yn ymddeol

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

surgery to waterloo
Cadwch y Dyddiad: 24 Medi
Digwyddiadau
Medi 16, 2026
Crematorium
Gwaith gwella wedi’i gynllunio yn Amlosgfa Pentrebychan
Y cyngor
Medi 16, 2026
Dyfarnwyd grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru i Tŷ Pawb i ddatblygu cynlluniau ar gyfer gwella'r adeilad.
Dyfarnwyd grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru i Tŷ Pawb i ddatblygu cynlluniau ar gyfer gwella’r adeilad.
Pobl a lle
Medi 16, 2026
The Longest Yarn 2
Mae gwau lleol yn helpu i greu arddangosfa enfawr o’r Ail Ryfel Byd – peidiwch â cholli’ch cyfle i’w gweld!
Arall Digwyddiadau
Medi 15, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Mae hi'n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a'r brifysgol)
Datgarboneiddio WrecsamFideo

Mae hi’n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a’r brifysgol)

Medi 15, 2026
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam

Medi 15, 2026
Wrecsam v Southampton – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam v Southampton – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 15, 2026
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Medi 14, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English