Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Llwyddiannau chwaraeon yn ennill cydnabyddiaeth ddinesig
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Llwyddiannau chwaraeon yn ennill cydnabyddiaeth ddinesig
Pobl a lle

Llwyddiannau chwaraeon yn ennill cydnabyddiaeth ddinesig

Diweddarwyd diwethaf: Ionawr 6, 2022 12:03 pm
Rhannu
Darllen 6 funud
Delwyn Derrick (Left) and Steve Williams (Right)
RHANNU

Rhoddwyd dwy wobr cydnabyddiaeth ddinesig Cyngor Wrecsam i unigolion sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar y gymuned drwy eu cariad at chwaraeon.

Cynnwys
  • O lawr gwlad i wychder
  • Tîm i bawb
  • Dechreuad cyffredin
  • Un i gyrraedd y brig
  • Tasg hawdd
  • Parhau i gynnal y fflam

Cymeradwywyd Delwyn Derrick a Steve Williams am eu cyraeddiadau a’u cyfranogiad yn ystod cyfarfod y Cyngor llawn diweddar ar 22 Rhagfyr.

O lawr gwlad i wychder

Cafodd Delwyn Derrick ei fagu yn agos at Barc Bellevue ac mae ganddo lawer o atgofion melys o chwarae pêl-droed yn y parc adnabyddus.  Diolch i’r oriau diddiwedd a dreuliodd yn y parc, cafodd Delwyn y cyfle i gwrdd â llawer o bobl o wahanol ddiwylliannau a ffyrdd o fyw.  Wrth iddo gwrdd â phobl o wledydd eraill yno, bu iddo gwrdd â llawer o fyfyrwyr a oedd yn astudio ym Mhrifysgol Glyndwr Wrecsam fel rhan o’r Prosiect Erasmus.

O ganlyniad i’r holl ysbrydoliaeth, sefydlodd Delwyn y tîm pêl-droed cynghrair cyntaf erioed i gael ei gofrestru fel un aml-ethnig a chynhwysol.

Yn 2017, gyda’r gyriant a’r uchelgais i greu tîm a oedd yn gynhwysol i bawb, dechreuodd Clwb Pêl-droed Parc Bellevue.  Dechreuodd y tîm hyfforddi o ddifri ac nid oedd unrhyw beth yn mynd i’w stopio.

Tîm i bawb

Mae Clwb Pêl-droed Parc Bellevue yn cynnwys chwaraewyr sy’n dod o gefndiroedd BAME (Du, Asiaidd ac o Leiafrifoedd Ethnig), dinasyddion o dramor a phobl â phroblemau iechyd meddwl neu amrywiaeth o anableddau dysgu.  Prif nod y tîm yw sicrhau cynhwysiant, lles a chefnogaeth i’r rheiny yn y gymuned a all deimlo ar gyrion cymdeithas.

Mae Delwyn yn tyfu’r tîm ac yn ei gefnogi yn wirfoddol, ac wedi mynd a’r tîm pêl-droed ar lawr gwlad i fod yn chwarae yng Nghynghrair Pêl-droed Gogledd Ddwyrain Cymru yn y System Byramid.

Mae Delwyn wedi ennill llawer o wobrau, yn cynnwys dinesydd y flwyddyn Cyngor Cymuned Offa a Phersonoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru. Yn 2021 derbyniodd Delwyn Wobr fawreddog Dewi Sant gyda Llywodraeth Cymru hefyd.

Dywedodd y Dirprwy Faer, y Cynghorydd Brian Cameron:  “Mae’r ganmoliaeth, gwobrau a llwyddiant y mae Delwyn Derrick wedi’i gael hyd yn hyn, mewn cyfnod byr iawn, yn ysbrydoledig.

“Hoffwn ddymuno’n dda iawn iddo ar gyfer y dyfodol”.

Dechreuad cyffredin

Rhywun arall oedd yn cael ei gydnabod am ei gyfraniad anhygoel i’r gymuned oedd Llywydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Steve Williams, sydd wedi’i benodi’n ddiweddar.

Cafodd Steve ei fagu ym mhentref lleol Cefn Mawr, a dangosodd lygad craff iawn a dawn fel gweinyddwr pêl-droed yn fachgen ifanc iawn.  Yn 18 oed, daeth yn ysgrifennydd ar gyfer ei glwb lleol, Cefn Albion.

Yn 1992, unodd Cefn Albion gyda Druids United, a arweiniodd at greu’r tîm y gwyddom amdano heddiw fel Clwb Uwch Gynghrair Cymru JD, Derwyddon Cefn.   Yn ystod yr uno hwn chwaraeodd Steve rôl allweddol yn y trafodion ac fe gafodd ei roi mewn lle da ar gyfer y byd gwleidyddiaeth pêl-droed.

Un i gyrraedd y brig

Tynnodd Steve sylw’r Cyn-gynghorydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Mr Jack Evans.

Gyda chymorth Mr Evans a’i gefnogaeth, etholwyd Steve ar Gymdeithas Bêl-droed Cymru yn 1997.  Parhaodd enw da arbennig Steve i dyfu a sefydlodd ei hun fel unigolyn uchel ei barch yn y gymuned bêl-droed ar draws Cymru.

Tasg hawdd

Chwaraeodd Steve rhan ganolog mewn adeiladu a datblygu Parc y Glowyr yn Wrecsam.  Mae’r cyfleuster yn enwog yn yr ardal am ddarparu cyfleusterau hyfforddiant o safon uchel.

Yn ystod ei gyfnod ar y Pwyllgor Rhyngwladol, cafodd Steve y fraint o weithio gyda’r diweddar Gary Speed.

Yn ystod ei gyfnod fel Llywydd, mae Steve yn ymrwymo i fod yn unigolyn ymarferol gyda llawer o syniadau blaengar ac uchelgeisiau ffres ar gyfer Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

Parhau i gynnal y fflam

Yn ogystal â defnyddio ei arbenigedd i’w rôl newydd, mae Steve yn parhau i roi cymaint â phosibl i’w gymuned ac yn sicrhau bod hanes pêl-droed Cymru yn parhau i ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol.

Llwyddodd i gadw hyn i fynd yn ddiweddar pan wnaeth gyfraniad hael i’r amgueddfa bêl-droed Cymru newydd, a fydd yn cael ei chynnal yn amgueddfa Wrecsam ac adeilad yr archifdy ar Stryt y Rhaglaw.

Rhoddodd Steve nifer o eitemau cofiadwy pêl-droed a oedd yn cynnwys Cwpan Cenedlaethol Cymru.  Bydd y rhain i gyd yn cael eu harddangos mewn lle blaenllaw i gefnogwyr a darpar chwaraewyr eu mwynhau.

Yn ystod y cyfarfod, roedd Steve mor glên i dangos un o’r eitemau anghredadwy, crys a fu Gareth Bale yn Gwisgo.

Dywedodd y Dirprwy Faer, y Cynghorydd Brian Cameron:  “Oherwydd ei werthoedd cryf o ran gweithio, ei benderfyniad a’i gyfraniad, nid yn unig i’w gymuned, ond i lawer o bobl ar draws Cymru, yr ydym yn cydnabod Steve heddiw gyda’r wobr ddinesig hon.

“Mae hefyd yn gyfle gwych i ddiolch iddo am ei gyfraniad i’r amgueddfa newydd drwy roi ei eitemau gwerthfawr yn hael.”

Rhannu
Erthygl flaenorol Junior Gym Ymestyn Campfa Iau am Ddim i fis Mawrth 2022!
Erthygl nesaf Schools Cyngor yn croesawu adborth gan Estyn wrth i ysgol wneud cynnydd

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Car park
Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 21, 2026
Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 20, 2026
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg
Awst 20, 2026
St Mark's Car Park in Wrexham
Paratoadau ar y gweill ar gyfer adeiladu parc bysus yng nghanol dinas Wrecsam
Pobl a lle
Awst 19, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Car park
Pobl a lle

Parcio a theithio yn dychwelyd am dymor arall

Gorffennaf 27, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Pobl a lle

Cau rheilffyrdd yn Wrecsam: Yr hyn y mae angen i deithwyr ei wybod

Awst 17, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam

Awst 12, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English