Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Llyfrgell Wrecsam ar ei newydd wedd
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Llyfrgell Wrecsam ar ei newydd wedd
Y cyngor

Llyfrgell Wrecsam ar ei newydd wedd

Diweddarwyd diwethaf: Ebrill 9, 2019 4:48 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Library
RHANNU

Bydd ymwelwyr â llyfrgell Wrecsam wedi sylwi ar newidiadau yn y cyntedd yn ddiweddar wrth i waith gael ei wneud i’w ailwampio a’i wneud yn rhan o’r llyfrgell ei hun. Gall defnyddwyr sy’n fyr o amser bellach ddychwelyd neu adnewyddu llyfrau yn gyflym ac yn hawdd, dewis llyfrau newydd, ailwefru eu teclynnau neu gasglu llyfrau y maent wedi’u harchebu yn barod.

Cynnwys
  • “Popeth Cymraeg”
  • “Mynediad cyflym at yr holl lyfrau diweddaraf”

Mae cypyrddau arddangos newydd wedi cael eu gosod gan gynnwys adrannau ar wahân ar gyfer yr holl fywgraffiadau newydd, adrannau diddordebau, ffordd o fyw, teithio, llyfrau plant a ffuglen newydd. Mae “Dewis Cyflym” i’ch helpu os nad oes gennych lawer o amser i bori trwy’r casgliad enfawr sydd ar gael yn y llyfrgell gyfan hefyd.

CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB

“Popeth Cymraeg”

Mae adran wych hefyd sy’n arbennig ar gyfer popeth Cymraeg. Bywgraffiadau Cymraeg, twristiaeth, hanes, ffuglen, cryno ddisgiau a DVDau!

Mae siop goffi wych newydd agor – The Secret Garden – ond ni fydd hon yn gyfrinach am lawer rhagor  Mae amrywiaeth o luniaeth ar gael gan gynnwys cacennau cartref a gallwch hyd yn oed brynu coffi i fynd allan i’w fwynhau wrth fanteisio ar y llyfrgell ar ei newydd wedd.

Meddai’r perchnogion Tom a Cath: “Mae edrychiad newydd y llyfrgell yn fuddsoddiad sydd wedi cael croeso mawr ac rydym yn edrych ymlaen at weld sut y bydd yn cael ei ddefnyddio gan gymuned Wrecsam. Mae Caffi The Secret Garden, sy’n syth o flaen ardal y cyntedd, bellach ar agor ac rydym eisoes wedi mwynhau croesawu llawer o gwsmeriaid. Mae nifer o eitemau’n cael eu cynnig ar y fwydlen a gallwch fwyta i mewn neu fynd ag eitemau allan, gan gynnwys bwydydd ar thema Gymreig sy’n boblogaidd iawn, tatws pob, paninis, brechdanau a chawl a chacennau cartref ac ati… mae gennym amrywiaeth eang o ddiodydd poeth ac oer ar gael hefyd. Mae gennym hefyd dudalen Facebook ar gyfer ymholiadau ac rydym yn edrych ymlaen at yr hyn y gobeithiwn a fydd yn wanwyn / haf prysur wrth i’r caffi gryfhau ei sylfaen cwsmeriaid.”

Llyfrgell Wrecsam ar ei newydd wedd
Llyfrgell Wrecsam ar ei newydd wedd
Llyfrgell Wrecsam ar ei newydd wedd
Library
Llyfrgell Wrecsam ar ei newydd wedd
Llyfrgell Wrecsam ar ei newydd wedd
Llyfrgell Wrecsam ar ei newydd wedd
Llyfrgell Wrecsam ar ei newydd wedd

“Mynediad cyflym at yr holl lyfrau diweddaraf”

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Mae’r llyfrgell yn boblogaidd iawn ac mae’n bwysig gwneud defnydd o le. Mae’n ddefnyddiol iawn hefyd gallu galw heibio ac ailwefru’ch teclynnau tra’r ydych yn manteisio ar fynediad cyflym at yr holl lyfrau diweddaraf sy’n werth eu darllen.

Shan Cooper, Arweinydd Llyfrgelloedd: “Mae’r llyfrgell bob amser yn chwilio am ffyrdd o wella’r gwasanaeth sydd ar gael i ymwelwyr ac roedd ymestyn i ardal y Cyntedd yn gwneud synnwyr pur. Mae ymwelwyr eisoes yn dweud pa mor groesawgar mae’n edrych ac mae defnydd da yn cael ei wneud o’r orsaf ailwefru.

Mae staff cyfeillgar bob amser wrth law i helpu a chynghori felly beth am ymweld â’ch llyfrgell ar ei newydd wedd y tro nesaf y byddwch yn y dref? Yr oriau agor yw 9am-6pm o ddydd Llun i ddydd Gwener ac 9am-4pm ar ddydd Sadwrn.

Gallwch ddod o hyd i’r wybodaeth ddiweddaraf am bopeth sy’n digwydd trwy ddilyn eu tudalen Facebook neu negeseuon twitter neu edrychwch ar eu gwefan.

Cynhaliwyd agoriad byr yn ddiweddar a daeth Maer Wrecsam, y Cynghorydd Andy Williams i dorri’r rhuban yn swyddogol i’r llyfrgell ar ei newydd wedd.

Llyfrgell Wrecsam ar ei newydd wedd

Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_61″] DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Arddangosfa Rare Aware yn Nhŷ Pawb Arddangosfa Rare Aware yn Nhŷ Pawb
Erthygl nesaf Digwyddiadau amser cinio y Carnifal Geiriau Digwyddiadau amser cinio y Carnifal Geiriau

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Medi 14, 2026
glyndwr
Oeddech chi’n gwybod am Fforwm Landlordiaid 2026 yn Wrecsam?
Digwyddiadau
Medi 14, 2026
Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Guildhall
Y cyngor

Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth

Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
ArallPobl a lleY cyngor

Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu

Medi 4, 2026
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English