Bydd tair llyfrgell yn Wrecsam yn cynnal digwyddiadau cofio’r wythnos hon i nodi 100 Mlynedd ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf.
Rhwng 2-4pm ar 9 Tachwedd, bydd Llyfrgell Rhos yn cynnal prynhawn o ddarllen barddoniaeth Cymraeg a Saesneg, a bydd ganddynt fyrddau arddangos a fydd yn cynnwys gwybodaeth am y Rhyfel. Byddwn hefyd yn dangos pabïau wedi’u gwau gan Grŵp Gwau a Chlebran y llyfrgell, sy’n cyfarfod bob dydd Mawrth yn y llyfrgell.
Bydd Cadeirydd Cyngor Cymuned Rhos hefyd yn dosbarthu gwobrau i ddisgyblion Ysgol Grango sydd wedi bod yn brysur iawn yn peintio posteri o’u syniadau hwy ynghylch y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd, bydd y gwaith yma hefyd yn cael ei arddangos.
Bydd Llyfrgell Llai hefyd yn talu teyrnged i’r bobl ac anifeiliaid a gafodd eu llusgo mewn i’r Rhyfel Byd Cyntaf gydag arddangosfa ar ddydd Gwener 8 Tachwedd o 2pm; bydd lluniaeth ar gael.
Bydd Cerddorfa Symffoni Wrecsam, ar y cyd â Gwasanaeth Llyfrgell Wrecsam, yn cynnal noson goffa arbennig yn Llyfrgell Wrecsam nos Iau 15 Tachwedd o 6.30pm ymlaen. Bydd y noson yn cynnwys geiriau a cherddoriaeth o fyfyrdod, gan ganolbwyntio’n benodol ar Wrecsam yn ystod y Rhyfel Mawr. Mae’r tocynnau ar gael am ddim o Lyfrgell Wrecsam.
Bydd lluniaeth ysgafn ar gael o 6.30pm ymlaen.
Darganfyddwch fwy am yr hyn sydd ymlaen yr wythnos hon wrth i ni nesáu at Sul y Cofio.