Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi heddiw y bydd gau gynllun i ddarparu cymorth ariannol i bobl y gofynnir iddynt hunan-ynysu.
Bydd y cynllun cyntaf ar gael i bobl ar incwm isel na allant weithio o’u cartref ac a fyddai’n colli incwm o ganlyniad i hunan-ynysu.
Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.
Er mwyn cymhwyso, mae’n rhaid i rywun fod yn hunan-ynysu ac yn derbyn Credyd Cynhwysol neu fudd-dâl penodol arall.
Bydd cynllun chwyddo tâl salwch statudol hefyd ar gyfer staff gofal cymdeithasol sy’n gweithio mewn cartrefi gofal, gofal yn y cartref ac fel cynorthwywyr personol.
Yn dilyn y cyhoeddiad, bydd y cyngor yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar fanylion y trefniadau ac yn rhannau’r rhain cyn gynted ag y byddant yn barod.
Yn y cyfamser, noder nad oes angen cysylltu â’r cyngor.
Cadwch yn ddiogel.
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Lawrlwythwch yr ap GIG