Mae’r Arolygwyr a sy’n gynnal yr Archwiliad Cyhoeddus o’n Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) y llynedd bellach wedi rhannu eu barn yn dilyn y gwrandawiad, ac wedi mynegi pryder ynghylch dwy agwedd yn unig o’r CDLl: darpariaeth tai cyffredinol a safleoedd i Sipsiwn a Theithwyr.
Nid ydynt yn codi pryderon ynghylch agweddau eraill o’r Cynllun, megis y strategaeth, hierarchaeth aneddiadau, cyflogaeth, manwerthu, tai fforddiadwy, cludiant, mwynau neu bolisïau amgylcheddol. Maent yn ymofyn i’r Cyngor gyflwyno datganiad i fynd i’r afael â cheisiadau am wybodaeth ac ymholiadau arbennig, cynhelir gwrandawiadau pellach ym mis Chwefror a Mawrth.
DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.
Rydym bellach yn gweithio i ymateb i’r pryderon a fynegwyd, a byddwn yn cyflwyno rhagor o dystiolaeth ffeithiol cyn y gwrandawiadau ym mis Mawrth neu Ebrill.
Meddai Lawrence Isted, Prif Swyddog Cynllunio a Rheoleiddio: “Nid yw’n anghyffredin i lythyrau o’r fath gael eu rhoi gan Arolygwyr yn ystod Archwiliad Cyhoeddus, sy’n caniatáu i ni ymateb iddo ac ymgymryd â gwaith pellach cyn mabwysiadu’r CDLl. Rydym wedi derbyn cadarnhad gan yr Arolygwyr ac yn paratoi ein ymateb erbyn y dyddiad dyledus, sef Ionawr 31. Byddwn yn parhau i gydweithio gyda’r Arolygwyr i sicrhau y gellir symud ymlaen â’r CDLl i’w fabwysiadu”
“Camau nesaf ar gyfer y CDLl”
Mae’r Arolygwyr wedi amlinellu’r camau nesaf i symud ymlaen â’r Cynllun:
- Maent yn ymofyn i ni gyflwyno datganiad erbyn 31 Ionawr 2020 sy’n ateb cyfres o gwestiynau ac yn darparu gwybodaeth ychwanegol dan benawdau amrywiol
- gofyn i wrthwynebwyr/ymatebwyr ymateb i’n datganiad erbyn 16 Chwefror
- trefnu 3 gwrandawiad cyhoeddus arall – cadarnhawyd y rhain fel a ganlyn:
- 25 Chwefror (Siambr y Cyngor)
- 11 Mawrth (Neuadd Goffa)
- 12 Mawrth (Canolfan Catrin Finch)
Nid yw’r Arolygwyr wedi cadarnhau’r pynciau a gaiff eu trafod na’r rhaglenni ar gyfer y gwrandawiadau eto, bydd hyn yn dibynnu ar ein datganiad ac unrhyw sylwadau pellach gan wrthwynebwyr/ymatebwyr.
Ar ddiwedd y camau nesaf hyn, bydd yr arolygwyr yn penderfynu p’un a ydym ni mewn sefyllfa i symud ymlaen i’r cam nesaf o ran y cynllun.
Mae llythyr/nodyn yr Arolygwyr a’n llythyr ni wedi’u cyfieithu ac ar gael ar ein tudalen we CDLl. Bydd hyn yn caniatáu i wrthwynebwyr/ymatebwyr a’r cyhoedd ehangach gael gwybod y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch barn a bwriad yr Arolygwyr. Bydd gwybodaeth ynghylch datganiad y Cyngor a gwrandawiadau pellach ar gael i’r cyhoedd ar ein tudalen Cynllun Datblygu Lleol:
https://wrexham-consult-cy.objective.co.uk/portal/examination_library_page
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.
COFRESTRWCH FI RŴAN