Nid yw hi fyth rhy gynnar i ddechrau rhannu llyfrau, straeon a rhigymau.
Trwy Dechrau Da, mae BookTrust Cymru yn sicrhau bod gan bob plentyn yng Nghymru eu llyfrau eu hunain gartref ac yn cefnogi teuluoedd i ddarllen gyda’i gilydd yn rheolaidd.
Mae bob plentyn yng Nghymru yn derbyn dau becyn Dechrau Da arbennig, a gaiff eu rhoi i deuluoedd gan Ymwelwyr Iechyd. Mae llyfrgelloedd yn Wrecsam yn cydlynu gyda Dechrau Da i gynnal sesiynau Amser Rhigwm ac Amser Stori i’ch helpu chi a’ch plentyn i fwynhau llyfrau a rhigymau a pharhau i ddarllen.
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
“Mae bob plentyn yn haeddu cael llyfr”
Dywedodd y Cyng. Hugh Jones, Aelod Arweiniol Pobl, Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Mae Dechrau Da yn fenter wych sy’n annog cariad tuag at lyfrau, storïau a rhigymau o oedran cynnar. Mae’n braf bod ein llyfrgelloedd yn gweithio’n agos gyda Dechrau Da Cymru er mwyn darparu’r fenter i blant Wrecsam. Mae ein llyfrgelloedd hefyd yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau i blant ifanc trwy gydol y flwyddyn a hoffwn annog pawb i ddarganfod beth all eu llyfrgell leol ei gynnig iddyn nhw”
Mae 2613 o becynnau wedi eu dosbarthu yn y 12 mis diwethaf…
Mae Dechrau Da, o bosib, wedi cyrraedd dros 8 allan o 10 o blant yn Wrecsam. Mae dros 2613 o becynnau wedi’u dosbarthu drwy wasanaeth llyfrgell Wrecsam yn ystod y 12 mis diwethaf. Mae BookTrust yn credu bod plant sy’n cael eu cyflwyno i lyfrau’n gynnar ac sy’n clywed rhywun yn darllen iddynt bob dydd, yn elwa’n addysgol, diwylliannol, cymdeithasol ac emosiynol.
Mae gan bob plentyn yng Nghymru a Lloegr yr hawl i gael pecyn Dechrau Da am ddim yn ystod dau gyfnod allweddol cyn ysgol. Y rhain yw…
Dechrau Da Babi
Fel rheol, mae pecyn Dechrau Da Babi yn cael ei roi i’ch plentyn yn ystod archwiliadau iechyd pan fydd y babi’n 6 mis oed. Mae’n cynnwys llyfr Cymraeg a llyfr Saesneg, a ddewiswyd yn ofalus i apelio at blant ifanc iawn, a llyfryn arbennig sy’n cynnwys syniadau ar gyfer rhannu llyfrau, straeon a rhigymau.
Dechrau Da Blynyddoedd Cynnar
Fel rheol, mae pecyn Dechrau Da Blynyddoedd Cynnar yn cael ei roi i’ch plentyn yn ystod archwiliadau iechyd pan fydd y plentyn bach yn 27 mis oed. Mae’n cynnwys llyfr stori a llun Cymraeg a Saesneg, a llyfryn yn llawn syniadau ar gyfer rhannu llyfrau, straeon a rhigymau. Mae bag gwyrdd Dechrau Da Blynyddoedd Cynnar wedi’i ddylunio i blant bach ei ddal – ac yn ddelfrydol iddynt ei gario i’r llyfrgell.
Mae Dechrau Da hefyd yn cynnig pecynnau am ddim i blant sydd ag anghenion ychwanegol, cyngor a chanllaw ar ddarllen gyda’ch gilydd, adnoddau a gweithgareddau a llawer mwy. Maent yn annog teuluoedd i rannu llyfrau, straeon a rhigymau o’r cychwyn cyntaf, i fwynhau llyfrau a datblygu hoffter o ddarllen er mwynhad. Mae darllen a rhannu llyfrau, straeon a rhigymau o oedran cynnar yn cefnogi ystod o ganlyniadau, gan gynnwys iaith gynnar gadarnhaol, datblygiad sgiliau llafaredd a chyfathrebu, datblygu perthynas/ perthynas glos rhwng y plentyn-rhiant a llythrennedd cynnar ac mae staff y gwasanaethau llyfrgell yn deall pwysigrwydd darllen o oedran cynnar iawn.
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION