Os ydych chi newydd orffen yn yr ysgol neu’r coleg, neu os ydych chi ar fin camu i fyd gwaith a ddim yn siŵr beth i’w wneud nesaf, pam na ymunwch chi â Chyngor Wrecsam fel prentis?
Mae yna ystod enfawr o swyddi a gyrfaoedd yn y cyngor, a gall prentisiaeth fod yn ffordd wych o gychwyn.
Fe allwch ddysgu sgiliau wrth weithio, ennill cyflog a chymryd y camau cyntaf tuag at yrfa o’ch dewis.
YMGEISIWCH NAWR
Eisiau gwybod mwy?
Mae gennym ni brentisiaethau cyffrous newydd mewn ystod o wasanaethau gan gynnwys:
- Gwasanaethau Addysg ac Ymyrraeth Gynnar
- Cyllid a TGCh
- Gwasanaethau i Gwsmeriaid a Digidol
- Tai
- Gofal Cymdeithasol
- AD, Perfformiad a Gwelliant
- Economi a Chynllunio
Fe gewch brofiad gwaith amrywiol a gwerthfawr a llawer o gefnogaeth gan gydweithwyr sy’n awyddus i’ch helpu i gychwyn eich gyrfa mewn llywodraeth leol.
Fe fyddwch yn gallu gweithio tuag at gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol mewn maes sydd o ddiddordeb i chi.
Mae prentisiaethau yn para am ddwy flynedd ac yn aml fe allant arwain at ragor o gyfleoedd o ran gyrfaoedd yn y cyngor.
Cymrwch eich cam cyntaf heddiw.
Agor drysau
Dywedodd y Cynghorydd Beverley Parry-Jones, Aelod Arweiniol y Gwasanaethau Corfforaethol:
“Rydym eisiau i fwy o bobl ystyried gyrfaoedd mewn llywodraeth leol, ac rydym yn llawn cynnwrf o fod yn cynnig y cyfle hwn.
“Fe all y camau cyntaf hynny i fyd gwaith fod yn anodd a dryslyd, ond mae prentisiaeth yn fan cychwyn gwych.
“Byddwch yn cael profiad gwaith a bywyd gwerthfawr, byddwch yn ennill cyflog ac yn gweithio tuag at gymwysterau a fydd yn eich helpu gyda’ch gyrfa yn y dyfodol.
“Efallai eich bod newydd orffen yn yr ysgol neu’r coleg a’ch bod yn ystyried eich cam nesaf, neu efallai eich bod yn cychwyn ym myd cyflogaeth am resymau eraill.
“Beth bynnag fo’r rheswm fe fyddai prentisiaeth yn ddewis gwych – gan agor llawer o ddrysau i chi a rhoi’r cyfle i chi i gyrraedd eich llawn botensial a chyflawni eich dyheadau.
“Mae hefyd yn ffordd wych i ni i ddarganfod talent newydd a recriwtio pobl gyda’r sgiliau a’r agwedd gywir i ddarparu gwasanaethau allweddol ar gyfer pobl Wrecsam.”
Sut i ymgeisio
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Medi 9 (2022), felly peidiwch ag oedi. Ymgeisiwch nawr er mwyn dechrau ym mis Hydref.
YMGEISIWCH NAWR