Mae Cyngor Wrecsam wedi croesawu’r newyddion fod Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r galw i greu parth buddsoddi newydd a allai helpu i atgyfnerthu economi Gogledd Ddwyrain Cymru.
Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai’n creu 12 parth buddsoddi newydd, gyda phartneriaid yn y sector cyhoeddus a phreifat yn awyddus i weld un o’r parthau’n cael ei leoli yn Wrecsam a Sir y Fflint.
Mae pob Parth Buddsoddi’n derbyn cyllid o £80 miliwn, i’w ddefnyddio dros bum mlynedd ar gyfer prosiectau arloesi, isadeiledd, a sgiliau a hyfforddiant yn y sectorau’n cael eu targedu.
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam: “Rydw i’n falch fod Llywodraeth Cymru’n cefnogi’r galw am barth buddsoddi yn Wrecsam a Sir y Fflint.
“Mae llawer iawn o botensial yn yr ardal hon sy’n gartref i entrepreneuriaid talentog a chwmnïau arloesol a fydd yn helpu i ddatblygu hyn ymhellach.
“Hoffwn ddiolch i Ashley Rogers yng Nghyngor Busnes Gogledd Cymru, a Joanna Swash o Moneypenny, yn ogystal â JCB, Airbus, Networld Sports, AMCR Cymru, Theatr Clwyd, Prifysgol Wrecsam a’r holl sefydliadau ac unigolion eraill sy’n helpu i wneud achos cadarn iawn ar gyfer parth buddsoddi yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.
“Hoffwn ddiolch i Gyngor Sir y Fflint am weithio gyda ni ar y fenter bwysig hon hefyd.
“Mae Wrecsam ar frig y don ar hyn o bryd diolch i gynnydd yn ei phroffil byd-eang, a bydd parth buddsoddi’n helpu i ennyn rhagor o ddiddordeb a buddsoddiadau busnes yn yr ardal.”