Mae dau safle trwyddedig yn Wrecsam wedi derbyn “Rhybuddion Cydymffurfio” ar ôl anwybyddu rhybuddion dechreuol am beidio â chadw at ganllawiau cadw pellter cymdeithasol.
Wrth weithio gyda Heddlu Gogledd Cymru, mae adran Trwyddedu’r Cyngor wedi bod yn ymweld â safleoedd trwyddedig dros y tair wythnos ddiwethaf er mwyn atgoffa’r rhai sy’n gyfrifol am eu rhwymedigaeth i sicrhau bod cadw pellter cymdeithasol yn digwydd er mwyn darparu amgylchedd diogel i staff a chwsmeriaid.
Efallai bod eich symptomau ddim yn ddifrifol ond dylech dal cael prawf am Coronafeirws
Mae’r ddau safle wedi derbyn eu “Rhybudd Cydymffurfio” a bydd yr adran drwyddedu yn cadw llygad agos arnynt. Os fyddent yn parhau i dorri’r rheolau, byddent mewn perygl o gael eu herlyn.
“Dim esgusodion am anwybyddu diogelwch y cyhoedd“
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Gwyddwn fod safleoedd trwyddedig wedi cael cyfnod anodd yn ystod y cyfnod clo, ond nid yw hynny’n esgus i anwybyddu gofynion diogelwch y cyhoedd, yn arbennig ar ôl iddynt dderbyn rhybuddion.
“Rwy’n gobeithio bod hyn yn rhybudd i bawb sydd â chyfrifoldeb am ddiogelwch eu staff a chwsmeriaid, y byddwn ni’n gweithredu. Mae’r coronafeirws yn dal i fodoli a rhaid i ni gyd fod yn wyliadwrus. Cadw pellter cymdeithasol a hylendid dwylo yw’r prif negeseuon yr ydym yn ceisio ei hybu i bawb er mwyn parhau i gadw Wrecsam yn ddiogel.”
Mae archwiliadau o safleoedd trwyddedig wedi bod yn digwydd ers i Lywodraeth Cymru ganiatáu safleoedd i ailagor eu hardaloedd awyr agored. Mae tafarndai a bariau wedi gallu agor tu mewn ers 3 Awst, gyda mesurau yn eu lle i reoli canllawiau cadw pellter cymdeithasol. Mae adroddiadau’n dangos bod lefel uchel o gydymffurfio, er gwaethaf rhai digwyddiadau lle nad oedd y rheolau’n cael eu dilyn.
YMGEISIWCH RŴAN