Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen “Mae fy mhlant yn siarad Cymraeg ond alla i ddim mynd dim pellach na ‘Bore da’” – Mae cymorth wrth law!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > “Mae fy mhlant yn siarad Cymraeg ond alla i ddim mynd dim pellach na ‘Bore da’” – Mae cymorth wrth law!
Pobl a lleY cyngor

“Mae fy mhlant yn siarad Cymraeg ond alla i ddim mynd dim pellach na ‘Bore da’” – Mae cymorth wrth law!

Diweddarwyd diwethaf: Medi 1, 2017 2:12 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
“Mae fy mhlant yn siarad Cymraeg ond alla i ddim mynd dim pellach na ‘Bore da’” – Mae cymorth wrth law!
RHANNU

Felly rydych wedi penderfynu anfon eich plentyn neu blant i ysgol Cyfrwng Cymraeg – gwych!

Mae tystiolaeth gref sy’n dangos (dolen gyswllt i erthygl Saesneg) fod bod yn ddwyieithog yn cynyddu creadigrwydd, cynyddu’r gallu i gadw gwybodaeth a hefyd yn gallu gwneud dysgu trydedd iaith yn llawer haws.

Ond teimla rhai rhieni tra bod eu plant yn dysgu Cymraeg yn gyflym yn yr ysgol, eu bod nhw eu hunain yn llusgo y tu ôl.

GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

Yn ffodus, mae cymorth wrth law i helpu rhieni i gyrraedd safon eu plant.

Dewisodd Heidi Phoenix, rhiant o Wrecsam anfon ei mab i Ysgol Bodhyfryd.

“Roeddwn am ei anfon i ysgol cyfrwng Cymraeg gan nad es i un fy hun, ac rwy’n credu ei bod yn rhyfedd mod i’n byw yng Nghymru, ac eto dydw i ddim yn siarad Cymraeg…fe ddylem i gyd wneud hynny!” meddai.

“Rydw i wastad wedi bod eisiau siarad Cymraeg ac felly rwy’n bwriadu dysgu gyda fy mab. Rwy’n credu’n gryf y bydd yn agor drysau iddo pan fydd maes o law yn mynd i chwilio am waith.”

Dywedodd Stephen Jones, Cydlynydd y Gymraeg yng Nghyngor Wrecsam: “Fe benderfynodd fy rhieni i fy anfon i ysgolion cyfrwng Cymraeg ac alla i ddim diolch digon iddynt am wneud hyn, ond roedd hynny ymhell yn ôl pan nad oedd y we wedi datblygu eto!

“Y dyddiau hyn mae llawer iawn o adnoddau ar-lein defnyddiol i’ch galluogi i siarad Cymraeg gyda’ch plentyn ac rydw i’n annog unrhyw un i fanteisio ar y cyfle.”

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Mae addysg Cyfrwng Cymraeg yn yr ysgol gynradd ac uwchradd yn hynod o bwysig ac rydym am wneud yr hyn y gallwn i annog plant i ddysgu Cymraeg – ond dylai rhieni fod yn gallu manteisio ar yr adnoddau sydd ar gael i’w helpu i ddysgu Cymraeg gyda’u plant.”

Nid yw hi erioed wedi bod yn haws i ddysgu i siarad Cymraeg yn Wrecsam, gyda’r dewis enfawr o gyrsiau sydd ar gael yng Ngholeg Cambria, sesiynau sgwrsio mewn lleoedd fel Saith Seren ac adnoddau ar-lein gwych i’ch helpu i ymestyn eich gwybodaeth.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.wrexham.gov.uk/welsh/user_register_w/register_w.cfm”]COFRESTRWCH FI[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Digwyddiad Cymraeg yn dychwelyd yn dilyn llwyddiant Digwyddiad Cymraeg yn dychwelyd yn dilyn llwyddiant
Erthygl nesaf Dysgwch ein hanthem genedlaethol a chanwch o’ch calon ar nos Sadwrn! Dysgwch ein hanthem genedlaethol a chanwch o’ch calon ar nos Sadwrn!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
Wrecsam 2029
Pobl a lle

Mae’n swyddogol! Mae Wrecsam wedi’i henwi ar restr fer derfynol teitl Dinas Diwylliant y DU

Hydref 22, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English