Yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam rydym yn canolbwyntio ar sicrhau perthnasau rhagorol!
Gan fanteisio ar ein cryfderau, mae meithrin perthnasau o fewn y sefydliad gyda phartneriaid a rhwng ein hymarferwyr, ein plant, ein pobl ifanc a’u teuluoedd yn rhan allweddol o’n gwaith. Mae ein hymarfer gofal cymdeithasol i blant wedi wynebu trawsnewid sylfaenol dros y blynyddoedd diwethaf ac rydym yn parhau i wella’r holl agweddau o ddarpariaeth gwasanaeth.
Rydym wedi ymroi amser ac adnoddau i greu’r amodau cywir er mwyn i weithwyr cymdeithasol ac ymarferwyr gofal cymdeithasol gael gweithio’n hyblyg. Rydym yn falch o ddarparu’r capasiti i weithwyr cymdeithasol ac ymarferwyr gofal cymdeithasol wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant, pobl ifanc a’u gofalwyr, ynghyd â sicrhau eu bod hwythau yn mwynhau cydbwysedd bywyd-gwaith cadarnhaol.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Yn ystod y 18 mis diwethaf, mae’r Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi cynnwys cyflwyno llwybr gyrfaol newydd mewn gwaith cymdeithasol, cyfleoedd hyfforddiant rhagorol, ymagweddau technolegol uwch a chyfres gadarn o werthoedd i’r cyngor, sydd oll yn trawsnewid gofal cymdeithasol plant.
Rydym yn edrych ymlaen at groesawu gweithwyr cymdeithasol ac ymarferwyr gofal cymdeithasol i ymuno â ni. Trwy weithio gyda ni fe gewch hyfforddiant a chefnogaeth ragorol a chyfleoedd i ddatblygu eich gyrfa. Oherwydd y buddsoddiad sylweddol a wnaed mae gennym y swyddi gwag canlynol yn y Gwasanaeth Rhianta Corfforaethol:
Gweithiwr Cymdeithasol – Llety â Chefnogaeth
Gweithwyr Cefnogi Teuluoedd – Prosiect ‘Kickstart’
Ymgynghorydd Personol – Gadael Gofal
Gweithwyr Cymdeithasol – Tîm Plant sy’n derbyn gofal
Gweithiwr Cymdeithasol – Tîm Maethu
Rheolwr Tîm Cynorthwyol – Tîm Plant sy’n derbyn gofal
Rheolwr Tîm Cynorthwyol – Tîm Maethu
Gweithwyr Cefnogi Teuluoedd – Tîm Maethu
Dyddiad cau: 17/04/2022
Cyfle i cwrdd a cyfarch y tîm a gael taith o amgylch yr adran yn Adeiladau’r Goron, 31 Stryt Caer, Wrecsam, LL13 8BG o 4PM – 7PM ar Dydd lau, 7 Ebrill, ewch i https://www.eventbrite.co.uk/e/308685706257
Cofrestrwch ar gyfer ein digwyddiad ddydd Iau, 7 Ebrill (4pm-7pm) yn Adeiladau’r Goron ar ei newydd wedd. Gweler y daflen ar gyfer mwy o fanylion digwyddiad. Os ydych eisiau mynychu, cofrestrwch AM DDIM yma: https://t.co/HzqQLsBmcK pic.twitter.com/8NlElHAdps
— Cyngor Wrecsam (@cbswrecsam) March 31, 2022
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH