Mae’r gwaith o ymestyn ac ailwampio ysgol Iau Parc Borras i greu un Ysgol Gynradd Gymunedol ar y safle bellach wedi dechrau. Bydd y cynlluniau yn cynnwys ychwanegu 10 dosbarth newydd i ddarparu ar gyfer disgyblion babanod.
Fel rhan o’r un cynllun, bydd ysgol gyfrwng Gymraeg yn agor ar ôl ailwampio’r ysgol fabanod bresennol ar gyfer 210 o ddisgyblion a 30 o blant meithrin i sicrhau ein bod yn gallu parhau i fodloni’r galw am addysg cyfrwng Cymraeg.
Y diweddaraf am y rhaglen frechu rhag Covid-19 ar draws Wrecsam a Gogledd Cymru
Bydd y gwaith yn costio £5 miliwn ac yn cael ei ariannu gan Gyngor Wrecsam a Llywodraeth Cymru dan Raglen Ysgolion a Cholegau yr 21ain ganrif sy’n anelu at drawsnewid y profiad dysgu i ddysgwyr, sicrhau eu bod yn cael eu dysgu mewn dosbarthiadau sydd â’r technolegau a’r cyfleusterau sydd eu hangen i ddarparu cwricwlwm yr 21ain ganrif.
(Hawlfraint CBSW)
Meddai’r Pennaeth, Rob Nicholson: “Mae’n gyfnod cyffrous i’r ysgol ac rydym yn edrych ymlaen at weld y gwaith yn datblygu a chael mwynhau’r cyfleusterau modern yn ogystal ag amgylchedd a fydd yn gwella’r amgylchedd dysgu i ddisgyblion a staff.”
Meddai’r Cyng. Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg: “Mae wedi bod yn gyfnod heriol i ddechrau unrhyw brosiect, ond mae’n wych gweld bod y gwaith wedi dechrau o’r diwedd. Fel arfer, fe fyddwn ar y safle ac yn gweld y gwaith yn datblygu yn bersonol, ond nid yw hynny’n bosibl ar hyn o bryd. Fodd bynnag, byddaf yn derbyn diweddariadau rheolaidd am y gwaith ac yn ymweld â’r safle unwaith y bydd y cyfyngiadau yn caniatáu.”
Bydd y gwaith yn cael ei gwblhau gan Read Construction sydd wedi ymrwymo i egwyddorion y ‘Cynllun Adeiladwyr Ystyriol’ ac yn hyrwyddo arfer orau yn y diwydiant mewn perthynas â gwella edrychiad safleoedd, parchu’r gymuned, diogelu’r amgylchedd, sicrhau diogelwch pawb, a diogelu eu gweithlu.
Meddai Alex Read, Cyfarwyddwr Read Construction: “Mae’n bleser gennym weithio ar y cyd â Chyngor Wrecsam i ddarparu prosiect Parc Borras. Mae Read yn ymrwymo i ychwanegu gwerth drwy ein prosiectau a byddwn yn gweithio’n agos gyda’r ysgol, y cyngor a’r gymuned leol i ddarparu’r buddion hyn yn ogystal ag amgylchedd dysgu yr 21ain ganrif.”
CANFOD Y FFEITHIAU