Dros yr wythnosau nesaf, bydd rhai o gwsmeriaid Hafren Dyfrdwy yn Wrecsam yn dechrau derbyn eu bil dŵr cyntaf gan y cwmni.
Maen nhw’n awyddus i siarad â phobl ac egluro sut gallwch chi gael help gyda’ch biliau os oes angen, felly maen nhw’n mynd ar daith.
Mae Louise Moir, yr Arweinydd Cwsmeriaid, yn egluro: “Pan newidion ni o Ddŵr Dyffryn Dyfrdwy i Hafren Dyfrdwy y llynedd, roedd yn newid mawr i rai. Rydyn ni wedi siarad â llawer o’n cwsmeriaid am y newidiadau’n barod, ond dros yr wythnosau nesaf bydd rhai o’r cwsmeriaid yn derbyn bil gennym ni am y tro cyntaf. Bydd y biliau’n edrych ac yn teimlo ychydig yn wahanol i’r hen filiau, felly mi fyddwn ni ar gael i ateb unrhyw gwestiynau sydd gan gwsmeriaid. Rŵan, efallai mai’r rhain ydi biliau rhataf Cymru, ond rydyn ni’n gwybod y bydd rhai’n dal i gael trafferth, felly rydyn ni eisiau i bobl wybod bod help ar gael gan ein tîm cyfeillgar.
“Rydyn ni wir eisiau siarad â chymaint o bobl ag y gallwn – p’un a ydyn nhw’n cael trafferth gyda’u bil er mwyn i ni eu helpu, neu hyd yn oed os oes rhywun awydd sgwrs – rydyn ni yma i helpu.”
Bydd y cwsmeriaid yn gallu siarad gyda’r timau o 10am tan 4pm bob dydd yn y lleoliadau hyn:
•Dydd Mercher 13 Chwefror, Sgwâr y Frenhines, Wrecsam
•Dydd Iau 14 Chwefror, Canolfan Gymunedol Tŷ Pawb, Stryt y Farchnad, Wrecsam LL13 8BY
•Dydd Gwener 15 Chwefror, Sgwâr y Frenhines, Wrecsam
Ychwanegodd Louise: “Mae gofalu am ein cwsmeriaid yn bwysig iawn i ni, ac mae ein timau wir yn edrych ymlaen i sgwrsio â phobl wyneb yn wyneb, felly dewch i chwilio amdanom ni i weld sut allwn ni helpu.
Peidiwch â phoeni os na allwch chi ddod ar y diwrnodau hynny, mae llwyth o wybodaeth ar eu gwefan.
Gallwch gofrestru i reoli eich cyfrif ar-lein, sy’n golygu y gallwch chi dalu, gosod debyd uniongyrchol, dweud eich bod wedi symud tŷ a llawer mwy, ddydd neu nos. Gallwch hefyd eu dilyn nhw ar Twitter @hdcymru neu fynd i’w tudalen Facebook i weld beth maen nhw’n ei wneud.”
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ysgol meithrin yn 2019 yw Chwefror 22
YMGEISIWCH NAWR