Mae Llwybr Dyffryn Clywedog yn daith gerdded fendigedig bum milltir a hanner o hyd, sy’n mynd a chi drwy rai o’n parciau gwledig gorau ar hyd y ffordd.
Mae’n dechrau ym Mwyngloddiau Plwm pentref y Mwynglawdd, gyda thaith gerdded i Felin y Nant, yna byddwch yn mynd i mewn i Goedwig Plas Power (gan gynnwys Clawdd Offa), cyn mynd ymlaen drwy’r Bers (a’i holl hanes). Nesaf, byddwch yn dilyn trywydd Felin Pulestin, ac yn parhau i gerdded yn hamddenol drwy Erddig, a fydd yn dod a chi i King’s Mill, lle daw’r daith gerdded i ben.
CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB .
Mae’n arbennig o boblogaidd gyda phobl leol, a gyda’r posibilrwydd fod rhywfaint o dywydd braf ar ei ffordd, efallai y byddwch eisiau gweld dros eich hun.
Mae’n ffordd wych o dreulio’r dydd, ac mae gennym ganllaw cerdded gwych y gallwch ei lawrlwytho o’n gwefan.
Fel blas o’r hyn sy’n eich disgwyl, edrychwch ar ein fideo, ac fel mae’r teitl yn dweud … gweld dros eich hun 🙂
Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb
DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB