Mae marchnad Nadolig Fictoraidd Wrecsam yn ôl, ac eleni mae’n digwydd ar ddydd Iau, 6 Rhagfyr.
Bydd dros 100 o stondinau yng nghanol y dref i chi ddewis anrhegion a chynhyrchion Nadoligaidd ohonynt – neu hyd yn oed gael rhywbeth bach i’ch hun!
Parcio am ddim!
Bydd stondinau ar agor o 12 hanner dydd – 8pm ar y diwrnod, gyda pharcio am ddim ar ôl 4pm – ar gael ym meysydd parcio’r cyngor yng nghanol y dref, gan gynnwys Tŷ Pawb.
Gallwch weld mwy am ddigwyddiadau parcio am ddim eraill sy’n digwydd yn Wrecsam dros dymor yr ŵyl eleni drwy ddarllen ein herthygl blog blaenorol.
Bydd y stondinau’n ymestyn yr holl ffordd o Eglwys San Silyn i Sgwâr y Frenhines, ac mae Stryt Henblas wedi ei hychwanegu am y tro cyntaf.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM DDIWEDDARIADAU WYTHNOSOL.
Ffyrdd ar gau
Bydd y ffyrdd a ganlyn ar gau i draffig o 6am
• Stryt yr Eglwys
• Y Stryt Fawr
• Stryt Hope
• Stryt Henblas
• Stryt y Frenhines
Bydd deiliaid bathodynnau glas yn dal i allu mynd ar hyd y Stryt Fawr
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae’r digwyddiad blynyddol hwn wedi denu 20,000 o ymwelwyr ac mae’n argoeli y bydd yn denu torfeydd mawr unwaith eto.
Eleni, bydd hefyd diddanwyr stryd Fictoraidd, olwyn fawr a hyd yn oed carwsél traddodiadol, felly dewch â’ch plant (neu’r ifanc eu hysbryd) gyda chi!
DEWCH O HYD I FWY O DDIGWYDDIADAU’R NADOLIG