Gwnaethom bicio i mewn i gwrdd â’r fasnachwraig annibynnol Emma Wilson, yr ysbrydoliaeth â’r pobydd cacennau gwych y tu ôl i Emz Cakes ar Stryt Caer yng nghanol y dref.
Mae Emma wedi rhedeg y Becws a’r Ystafelloedd Te hynod lwyddiannus ers 2014 ac, er yn wreiddiol o Gaer, mae hi wrth ei bodd yn Wrecsam ac yn falch ei bod wedi ymgartrefu yma.
Mae Emma’n disgrifio ei siop fel un “addas iawn i blant” ac mae ganddi “gornel y plant” i gadw’r plant bach yn ddiddan. Wrth i ni siarad, daeth nifer o famau gyda chadeiriau gwthio i mewn am goffi yn y bore a gwneud eu hunain yn gartrefol ar unwaith gan gadarnhau’r statws fel lle addas i blant!
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU
Yn wreiddiol roedd yn gweithio gartref, yn gwneud cacennau i archeb cyn symud i mewn i’w heiddo ar Stryt Caer lle mae hi bellach yn pobi pob un o’i chacennau. Mae hi hefyd yn cyflogi 4 o staff, tri yn llawn amser ac un yn rhan amser, i weini ei chacennau blasus naill ai gyda choffi, ysgytlaeth, neu “cake shakes” lle rydych yn dewis cacen ag ysgytlaeth neu fel rhan o’i the prynhawn arbennig. Mae rhai cwsmeriaid yn dod i’r dref dim ond i gael te prynhawn yn Emz Cakes – ffaith y mae Emma yn arbennig o falch ohoni.
“pobl hyfryd – dyna pam rydw i’n aros yma”
Dywedodd Emma:
“Mae gen i gnewyllyn da o gwsmeriaid sy’n cynnwys mamau a theuluoedd ond rydym bellach yn gweld mwy o dwristiaid gan fod y tîm twristiaeth yn Wrecsam wedi gwneud cymaint i hyrwyddo’r ardal. Mae gan Wrecsam bobl hyfryd – dyna pam rydw i’n aros yma.
“mae pobl wrth eu boddau efo nhw”
Gallwch eistedd y tu mewn neu’r tu allan hefyd gan fod seddi o flaen y siop ac mae tair o siediau pwrpasol wedi eu paentio’n llachar yng nghefn y siop – ia dyna chi siediau – ac eglurodd Emma fod pobl wrth eu boddau efo nhw, mae’r plant yn meddwl eu bod yn wych ac os ydych chi eisiau ychydig o breifatrwydd mae hyd yn oed llenni y gallwch eu cau.
Mae mwy i Emz Cakes na chacennau er hynny, fel y darganfyddom ni drwy edrych o gwmpas y siop. Mae ystod lawn o bethau ar werth sydd wedi cael eu cynhyrchu gan grefftwyr ac artistiaid lleol o botiau o bicls i galonnau pren. Pan oedd yn dechrau arni, darganfu Emma ei bod yn anodd dod yn adnabyddus, felly drwy gadw cynnyrch lleol, mae’n gallu helpu busnesau llai i gamu ar yr ysgol.
Mae hi hefyd yn darparu ar gyfer partïon plant lle gall plant bach addurno cacennau bach cyn iddynt roi eu dannedd ynddynt a gallwch hefyd logi ei heiddo rhwng 5 a 7pm ar gyfer digwyddiadau ac mae hynny wedi bod yn boblogaidd ar gyfer cawodydd babanod!
Mae Emma wedi’i chyffroi’n fawr gan Tŷ Pawb, y cyfleuster celfyddydau a marchnad sy’n agor y gwanwyn nesaf. Mae’n sicr ganddi ddigon o weledigaeth i weld y potensial am gwsmeriaid newydd ac eisoes yn cynllunio i weld sut y gall hi wneud y gorau o’r cyfle.
“Rydych angen eich cyffyrddiad eich hun”
Gofynnom i Emma pa gyngor oedd ganddi i unrhyw un a oedd yn dymuno sefydlu busnes yn Wrecsam ac nid oedd ei hateb yn ein synnu o gwbl:
“Rhaid i chi edrych ar yr hyn y byddwch yn ei gynnig ac a yw’n ddigon gwahanol i wneud i bobl fod eisiau ei brynu. Rydych angen eich cyffyrddiad eich hun a rhaid i chi fod yn barod i weithio’n galed a bod yn hyblyg. Gallaf weithio 80 awr ar rai wythnosau prysur gan fod bob amser rhywfaint o waith gweinyddol sydd angen ei wneud. Ond mae hynny’n iawn, gan ei fod yn sicr werth yr ymdrech.”
A beth am hysbysebu – a yw Emma’n defnyddio cyfryngau cymdeithasol fel pob un o’n masnachwyr annibynnol eraill?
Ydi mae hi, ac mae hi’n sicr yn argymell hynny i fasnachwyr eraill:
“Rydw i’n defnyddio Instagram, Twitter a Facebook ac rwy’n credu ei bod yn hanfodol i fasnachwyr bach fod ar y Cyfryngau Cymdeithasol – mae’n rhad ac am ddim a dyna’r ffordd i gael pobl i glywed eich enw.”
Mae Emz Cakes ar agor o 10.30 tan 4.30 o ddydd Llun i ddydd Sadwrn ac rydym yn gwybod y bydd y ddynes llawn menter yma yn creu argraff arnoch felly beth am bicio i mewn am goffi a chacen y tro nesaf y byddwch yn y dref.
Does gennym ni ddim amheuaeth y bydd Emz Cakes o gwmpas am amser hir iawn ac rydym yn dymuno llwyddiant parhaus iddi yng nghanol y dref.
Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Datblygu Economaidd ac Adfywio:
“Dylai Emma fod yn falch iawn o’r hyn y mae hi wedi ei gyflawni mewn cyfnod mor fyr. Mae ei gwaith caled a’i syniadau llawn menter yn sicr wedi talu ar eu canfed ac rwy’n dymuno’n dda iawn iddi ar gyfer y dyfodol.” future.”
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau
COFRESTRWCH FI