Mae tenantiaid y Cyngor wedi canmol gwaith gwella a wnaethpwyd i’w heiddo yn ddiweddar.
Mae eiddo yn Johnstown yn cael toeau newydd ar hyn o bryd i sicrhau eu bod yn cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru, Llywodraeth Cymru.
Dyma’r diweddaraf mewn rhaglen enfawr o welliannau sydd hefyd yn cynnwys gwaith arall fel amnewid ceginau ac ystafelloedd ymolchi ac inswleiddio waliau allanol eiddo nad ydynt yn draddodiadol.
Mae’r cartrefi’n edrych yn well nag erioed
Mae Arthur Harris, tenant y Cyngor o Johnstown, wedi croesawu’r gwaith. Meddai: “Rwyf wedi cael bob math o welliannau gan gynnwys cegin ac ystafell ymolchi newydd a gwres canolog newydd. Maent wedi ailweirio’r trydan a gwneud gwaith yn yr ardd hefyd.
“Mae’n rhaid i chi ddioddef ychydig o darfu, does dim modd o osgoi hynny, ond mae angen gwneud y gwaith os ydych eisiau i’ch tŷ gyrraedd y safon, ac mae werth ei wneud i’w weld yn edrych cystal ar ôl gwneud y gwaith.
“Mae’r tîm sydd wedi gwneud y gwaith wedi bod yn gwrtais iawn a pharod eu cymorth, i fod yn deg. Rŵan bod y gwaith wedi gorffen, mae fy nhŷ yn edrych yn well nag erioed, y tu mewn a’r tu allan!”
Mae’r gwaith toi yn Johnstown yn cael ei wneud gan Paveaways Ltd.
Dywedodd yr Aelod Lleol dros Johnstown, y Cynghorydd David Bithell: “Gwnaethpwyd llawer iawn o waith i foderneiddio cannoedd o eiddo yma, a bydd gwaith yn cael ei wneud i ragor o dai dros y misoedd nesaf.
“Yn amlwg, gall gwaith ar y raddfa hon arwain at nifer o heriau ond rydym yn gweithio yn galed i gadw’r safon yn uchel, a gallwch rŵan weld y gwahaniaeth y mae’n ei wneud yn yr ardal leol.
“Mae tai wedi’u trawsnewid yn llwyr, a’u gwella i safon llawer uwch, felly mae hyn yn newyddion ardderchog i’n tenantiaid.”
Mae mwy o fuddsoddiad ar y ffordd
Yn ddiweddar, cymeradwyodd Bwrdd Gweithredol Cyngor Wrecsam fuddsoddiad o £50.3m i’r gwaith gwella tai barhau yn 2018/19.
Bydd hyn hefyd yn cynnwys cyfraniad gan Lywodraeth Cymru ar ffurf grant Lwfans Atgyweiriadau Mawr. Mae hwn yn cael ei ddyfarnu i Awdurdodau Lleol i’w helpu i gyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru.
Dywedodd yr Aelod Arweiniol Tai, y Cynghorydd David Griffiths: “Mae dyfodol disglair i dai cymdeithasol yn Wrecsam. Rydym yn gwneud buddsoddiad enfawr ac yn cyflawni’r rhaglen wella fwyaf a welwyd yn y fwrdeistref sirol ers sawl degawd.
“Y pwrpas yw sicrhau bod ein cartrefi yn fodern, yn ddiogel, yn gyfforddus, yn ddeniadol, ac yn addas i’r dyfodol. Bydd angen gwneud mwy o waith ar rai eiddo nag eraill ond rwy’n credu ei fod yn bwysig ein bod yn manteisio ar y cyfle i wneud hyn rŵan a’i wneud yn gywir.”
Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat.
DILYNWCH NI AR SNAPCHAT