Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ydych chi’n gweithio yn y diwydiant adeiladu? Dyma ffordd wych o dreulio dwy awr o’ch amser…
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Ydych chi’n gweithio yn y diwydiant adeiladu? Dyma ffordd wych o dreulio dwy awr o’ch amser…
ArallBusnes ac addysg

Ydych chi’n gweithio yn y diwydiant adeiladu? Dyma ffordd wych o dreulio dwy awr o’ch amser…

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 27, 2018 5:14 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
Construction in North Wales
RHANNU

Ydych chi’n gweithio yn y diwydiant adeiladu? Darllenwch hwn…

Cynnwys
  • Oes gennych chi ddiddordeb?
  • Cefnogaeth am ddim i’ch busnes

Mae cwmnïau adeiladu yn Wrecsam a gweddill Gogledd Cymru’n cael eu gwahodd i ddysgu mwy am gyfleoedd am gontractau gyda chynghorau lleol.

Bob blwyddyn, mae’r chwe chyngor yng Ngogledd Cymru – Wrecsam, Sir y Fflint, Sir Ddinbych, Conwy, Gwynedd ac Ynys Môn – yn contractio cwmnïau i wneud pob math o waith adeiladu, o drwsio a chynnal a chadw hyd at brosiectau adeiladu newydd sbon.

Ond i fod yn gymwys yn y dyfodol, bydd angen i gwmnïau fod ar restr o gyflenwyr sydd wedi’u cymeradwyo ymlaen llaw o’r enw Fframwaith Adeiladu Gogledd Cymru.

CYFRIF SNAPCHAT I WRECSAM.

Oes gennych chi ddiddordeb?

via GIPHY

Mae digwyddiadau gwybodaeth yn cael eu cynnal yn yr Wyddgrug a Chaernarfon ac mae’r cynghorau’n benodol awyddus i siarad â busnesau bach a chanolig.

Os gallai eich cwmni chi gyflawni prosiectau sydd werth rhwng £250,000 a £2 filiwn, dylech ddod i gael gwybod mwy.

Cewch wybod pa fath o waith a allai fod ar gael, a sut i ymgeisio i fod ar y fframwaith.

Mae’r digwyddiadau’n cael eu cynnal ar y dyddiadau canlynol:

  • Dydd Mawrth, 6 Mawrth yng Ngwesty Beaufort Park yn yr Wyddgrug (CH7 6RQ), yn dechrau am 8am.
  • Dydd Iau, 8 Mawrth yng Ngwesty’r Celtic Royal yng Nghaernarfon (LL55 1AY), yn dechrau am 8am.

Dim ond i un digwyddiad mae angen i chi fynd, a bydd yn para tua dwy awr.

Nid oes angen archebu lle, dim ond dod yno ar y diwrnod.

Er hynny, os hoffech chi gael gwybod mwy ymlaen llaw, ffoniwch John Humphreys ar 07831 515525 neu Rob Beattie ar 07590 710700.

Cefnogaeth am ddim i’ch busnes

Cewch hefyd glywed am gefnogaeth sydd ar gael am ddim drwy raglen Dyfodol Adeiladu Cymru, a bydd staff y rhaglen ar gael i gynnig cyngor un-i-un i chi.

Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://newyddion.wrecsam.gov.uk/cyfrif-snapchat-i-wrecsam/”] DILYNWCH NI AR SNAPCHAT [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Dewch i hawlio eich llyfr am ddim! Dewch i hawlio eich llyfr am ddim!
Erthygl nesaf Mae mwy o gartrefi wedi cael eu 'trawsnewid' diolch i'n prosiect moderneiddio... Mae mwy o gartrefi wedi cael eu ‘trawsnewid’ diolch i’n prosiect moderneiddio…

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 2, 2026
Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Minera Roof Trusses
Busnes ac addysg

Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi

Awst 28, 2026
Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
Mayor at the Welsh Blood Service donation clinic
ArallPobl a lle

Maer yn rhoi gwaed i gefnogi ymgyrch rhoi

Awst 26, 2026
Red Ensign Flag
ArallDigwyddiadauPobl a lle

Coffáu Diwrnod y Llynges Fasnachol trwy godi’r Lluman Coch

Awst 24, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English