Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae mwy o gartrefi wedi cael eu ‘trawsnewid’ diolch i’n prosiect moderneiddio…
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Mae mwy o gartrefi wedi cael eu ‘trawsnewid’ diolch i’n prosiect moderneiddio…
Pobl a lleY cyngorYn cael sylw arbennig

Mae mwy o gartrefi wedi cael eu ‘trawsnewid’ diolch i’n prosiect moderneiddio…

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 27, 2018 6:28 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Mae mwy o gartrefi wedi cael eu 'trawsnewid' diolch i'n prosiect moderneiddio...
RHANNU

Mae tenantiaid y Cyngor wedi canmol gwaith gwella a wnaethpwyd i’w heiddo yn ddiweddar.

Cynnwys
  • Mae’r cartrefi’n edrych yn well nag erioed
  • Mae mwy o fuddsoddiad ar y ffordd

Mae eiddo yn Johnstown yn cael toeau newydd ar hyn o bryd i sicrhau eu bod yn cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru, Llywodraeth Cymru.

Dyma’r diweddaraf mewn rhaglen enfawr o welliannau sydd hefyd yn cynnwys gwaith arall fel amnewid ceginau ac ystafelloedd ymolchi ac inswleiddio waliau allanol eiddo nad ydynt yn draddodiadol.

CYFRIF SNAPCHAT I WRECSAM.

Mae’r cartrefi’n edrych yn well nag erioed

Mae Arthur Harris, tenant y Cyngor o Johnstown, wedi croesawu’r gwaith. Meddai: “Rwyf wedi cael bob math o welliannau gan gynnwys cegin ac ystafell ymolchi newydd a gwres canolog newydd. Maent wedi ailweirio’r trydan a gwneud gwaith yn yr ardd hefyd.

“Mae’n rhaid i chi ddioddef ychydig o darfu, does dim modd o osgoi hynny, ond mae angen gwneud y gwaith os ydych eisiau i’ch tŷ gyrraedd y safon, ac mae werth ei wneud i’w weld yn edrych cystal ar ôl gwneud y gwaith.

“Mae’r tîm sydd wedi gwneud y gwaith wedi bod yn gwrtais iawn a pharod eu cymorth, i fod yn deg. Rŵan bod y gwaith wedi gorffen, mae fy nhŷ yn edrych yn well nag erioed, y tu mewn a’r tu allan!”

Mae’r gwaith toi yn Johnstown yn cael ei wneud gan Paveaways Ltd.

Dywedodd yr Aelod Lleol dros Johnstown, y Cynghorydd David Bithell: “Gwnaethpwyd llawer iawn o waith i foderneiddio cannoedd o eiddo yma, a bydd gwaith yn cael ei wneud i ragor o dai dros y misoedd nesaf.

“Yn amlwg, gall gwaith ar y raddfa hon arwain at nifer o heriau ond rydym yn gweithio yn galed i gadw’r safon yn uchel, a gallwch rŵan weld y gwahaniaeth y mae’n ei wneud yn yr ardal leol.

“Mae tai wedi’u trawsnewid yn llwyr, a’u gwella i safon llawer uwch, felly mae hyn yn newyddion ardderchog i’n tenantiaid.”

Mae mwy o gartrefi wedi cael eu 'trawsnewid' diolch i'n prosiect moderneiddio...
Mae mwy o gartrefi wedi cael eu 'trawsnewid' diolch i'n prosiect moderneiddio...

Mae mwy o fuddsoddiad ar y ffordd

Yn ddiweddar, cymeradwyodd Bwrdd Gweithredol Cyngor Wrecsam fuddsoddiad o £50.3m i’r gwaith gwella tai barhau yn 2018/19.

Bydd hyn hefyd yn cynnwys cyfraniad gan Lywodraeth Cymru ar ffurf grant Lwfans Atgyweiriadau Mawr. Mae hwn yn cael ei ddyfarnu i Awdurdodau Lleol i’w helpu i gyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru.

Dywedodd yr Aelod Arweiniol Tai, y Cynghorydd David Griffiths: “Mae dyfodol disglair i dai cymdeithasol yn Wrecsam. Rydym yn gwneud buddsoddiad enfawr ac yn cyflawni’r rhaglen wella fwyaf a welwyd yn y fwrdeistref sirol ers sawl degawd.

“Y pwrpas yw sicrhau bod ein cartrefi yn fodern, yn ddiogel, yn gyfforddus, yn ddeniadol, ac yn addas i’r dyfodol. Bydd angen gwneud mwy o waith ar rai eiddo nag eraill ond rwy’n credu ei fod yn bwysig ein bod yn manteisio ar y cyfle i wneud hyn rŵan a’i wneud yn gywir.”

Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://newyddion.wrecsam.gov.uk/cyfrif-snapchat-i-wrecsam/”] DILYNWCH NI AR SNAPCHAT [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Construction in North Wales Ydych chi’n gweithio yn y diwydiant adeiladu? Dyma ffordd wych o dreulio dwy awr o’ch amser…
Erthygl nesaf Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol 2017/18 (Drafft ar gyfer ymgynghori) Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol 2017/18 (Drafft ar gyfer ymgynghori)

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Britain in Bloom Wrecsam 2026
Pobl a lle

Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni

Awst 11, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Uwchraddio’r rheilffyrdd ar gyfer Gogledd Cymru ac ardal y ffin

Awst 10, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English