Ers blynyddoedd lawer rydym ni wedi bod yn annog pobl i fynd am dro i’r parc, i gael picnic neu i gymryd rhan mewn digwyddiadau.
Ond mae pethau yn wahanol iawn rŵan a dydyn ni ddim yn eich annog i deithio mewn car i unrhyw un o’n parciau. Yn hytrach, gofynnwn mai dim ond bobl leol sy’n mynd i’n parciau a hynny fel rhan o’u hymarfer corff dyddiol, gan gynnwys mynd â chŵn am dro. Ddylech chi ddim gyrru i unrhyw un o’n parciau.
I’r rheiny ohonoch chi sy’n ddigon ffodus i fod yn byw wrth ymyl parc gwledig, rydym ni wedi gorfod rhoi mesurau arbennig ar waith a byddwch chi rŵan yn gweld arwyddion y dylech chi gymryd sylw ohonyn nhw.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
Canllawiau newydd ar gyfer ymweld â pharciau:
- Peidiwch ag ymweld â pharc os oes gennych chi unrhyw symptom – gwres, peswch, diffyg anadl. Edrychwch ar ganllawiau’r GIG os ydi hyn yn berthnasol i chi
- Cadwch bellter cymdeithasol o ddau fetr neu fwy rhyngoch chi a phobl eraill
- Peidiwch â mynd i mewn os ydi hi’n brysur ac os nad ydych chi’n gallu cadw pellter cymdeithasol
- Ystyriwch fynd i’r parc ar adeg wahanol (yn gynt neu’n hwyrach) er mwyn i rieni, plant a phobl hŷn ddefnyddio’r gofodau hyn
- Defnyddiwch bob rhan o’r parc sydd ar agor er mwyn i chi cadw pellter priodol o bobl eraill
- Os ydi’r parc yn brysur, ystyriwch wneud ymarfer corff ar strydoedd distawach a llai prysur
- Trïwch beidio â chyffwrdd arwynebau (fel gatiau neu ganllawiau) a dilynwch gyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru ar olchi dwylo, gan gynnwys golchi dwylo yn syth bin ar ôl i chi gyrraedd adref
- Cadwch eich ci/cŵn ar dennyn drwy gydol yr amser
- Ddylech chi ddim gyrru i’r parc i fynd â’ch ci am dro – dydi hyn ddim yn ‘deithio hanfodol’
- Cofiwch barchu’r rheiny sy’n cynnal a chadw’r parciau a dilyn unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan swyddogion. Mae’r mesurau yma yn rhai dros dro er mwyn eich diogelu chi
- Peidiwch â defnyddio’r rhannau sydd ar gau fel meysydd chwarae, campfeydd awyr agored a chyfleusterau chwaraeon – mae’r rhain ar gau er mwyn eich diogelwch chi
- Chewch chi ddim mynd i’r parc i dorheulo nac i gael picnic neu farbeciw
Mae’r mesurau hyn ar waith i’ch cadw chi’n saff, felly cofiwch gymryd sylw ohonyn nhw a gwneud yr addasiadau priodol pan fyddwch chi’n ymweld.
Gobeithio y cawn eich gwahodd yn ôl yn fuan ond, am rŵan, mae’n rhaid i bethau fod yn wahanol a gofynnwn i chi aros gartref, aros yn saff a diogelu’r GIG. Pan fyddwch chi’n gwneud eich ymarfer corff dyddiol, cofiwch gadw pellter o ddau fetr rhyngoch chi ac eraill pan fyddwch chi yn y parc a phan fyddwch chi’n cerdded yno ac yn ôl gartref.
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19