Mae’r nosweithiau’n mynd yn hirach, mae’r sgarffiau a’r hetiau’n dod allan ac mae’r goleuadau a’r addurniadau’n mynd i fyny dros y dref.
Mae’n dechrau edrych yn fawr iawn fel Nadolig!
Dyma’r un cyntaf i ni yn Tŷ Pawb ac mae gennym bethau arbennig iawn i helpu chi ddathlu a mwynhau trwy gydol y Nadolig!
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM DDIWEDDARIADAU WYTHNOSOL.
Edrychwch ar ein rhestr Nadolig!
Mae yna grefftau ar gyfer y plant, gwneud torch a’r cywennell Nadolig ar gyfer yr oedolion, siopa hwyr a bwyd yn ein siop oriel, corau a chanu carolau, ogof Siôn Corn, bwydlen Nadolig blasus yn ein ardal fwyd, gwin melled, pob math o gerddoriaeth fyw a hyd yn oed noson gomedi!
Lawrlwythwch y canllaw llawn yma
Darganfod yr anrheg berffaith!
Tŷ Pawb fydd y lle i fod am siopa hefyd!
Yn ogystal â’n dewis anhygoel o farchnadoedd a siopau, fe fydd gennym hefyd ffair grefft enfawr gyda Helfa Gelf ar ddydd Sul 9 Rhagfyr, gan gynnwys anrhegion lleol, cardiau a llawer mwy!
Ffilmiau Nadolig
Fe fyddwn ni’n dangos ffilmiau gwyliau clasurol trwy gydol y nadolig, gan gynnwys A Muppet Christmas Carol, Love Actually, Elf ac, wrth gwrs, Die Hard! Am y rhestr lawn o ddigwyddiadau a manylion ar sut i archebu, edrychwch ar ein tudalen digwyddiadau Facebook.
Ble mae Tŷ Pawb
Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.
COFIWCH EICH BINIAU