Gyd-gerddwyr a selogion byd natur – dyma barc lleol sydd yn siŵr o fod at eich dant 🙂
Mae Parc Stryt Las, sy’n gartref i’r fadfall ddŵr gribog, yn rhan o ardal cadwraeth arbennig Johnstown. Mae digonedd o fywyd gwyllt arall yn y parc hefyd…
GALL Y DDAU GAM SYML YMA TROI CHI MEWN I ARCHARWR AILGYLCHU!
Hyd yn oed os nad ydych yn ddigon ffodus i weld rhai o’r madfallod (er ein bod yn eithaf sicr y gwelwch chi gerflun y fadfall enfawr!), mae Stryt Las yn dal i fod yn le arbennig i dreulio’r pnawn.
Mae’r llwybrau’n hawdd i’w cerdded – gyda golygfeydd godidog ar draws y pyllau dŵr ar eu hyd. Ceir hefyd ardaloedd coediog i chwilota ynddynt.
Dyma fideo byr i ddangos i chi sut y gallai eich pnawn fod ym Mharc Stryt Las.
Sut i fod yn archarwr ailgylchu…mewn dau gam syml.
DERBYNIWCH AWGRYMIADAU AILGYLCHU