Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae Wythnos Pontio’r Cenedlaethau Byd-eang yn dechrau heddiw
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Mae Wythnos Pontio’r Cenedlaethau Byd-eang yn dechrau heddiw
Pobl a lle

Mae Wythnos Pontio’r Cenedlaethau Byd-eang yn dechrau heddiw

Diweddarwyd diwethaf: Ebrill 24, 2025 5:19 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
intergenerational
RHANNU

Rydym yn falch o gymryd rhan yn yr Wythnos Pontio’r Cenedlaethau Byd-eang am yr eildro! Mae Wythnos Pontio’r Cenedlaethau yn ymwneud â dod â phobl o bob oed ynghyd i rannu straeon, dysgu pethau newydd a chael amser gwych. Ond, wrth gwrs, nid yw’r gwaith yn gorffen ar ôl i’r wythnos ddod i ben.

Mae’r wythnos arbennig hon yn gyfle gwych i fyfyrio ar yr holl fentrau pontio’r cenedlaethau gwych yn Wrecsam, megis sefydlu grŵp plant bach pontio’r cenedlaethau, ysgolion cynradd yn ymweld â chartrefi preswyl, a myfyrwyr yn Ysgol Gynradd Gymunedol Victoria yn cymryd rhan mewn digwyddiad atal cwympiadau.

Mae’r wythnos hon yn llawn gweithgareddau dyddiol sy’n helpu pobl o wahanol genedlaethau i gysylltu â’i gilydd. P’un a ydych chi’n ifanc neu’n hŷn, neu rywle yn y canol, mae rhywbeth i bawb ei fwynhau a’i ddysgu gan eraill.

Cymerwch gip ar yr hyn sy’n digwydd bob dydd ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol. Cofiwch, mae pob tamaid yn helpu i ddod â’n cymuned yn agosach, gan wneud yr wythnos hon yn llwyddiant.   Gadewch i ni fwynhau dysgu oddi wrth ein gilydd. 

Dywedodd y Cynghorydd John Pritchard, Aelod Arweiniol dros Ofal Cymdeithasol i Oedolion: “Rwy’n falch o gefnogi Wythnos Pontio’r Cenedlaethau. Mae gwaith pontio’r cenedlaethau yn dathlu’r cysylltiadau a’r doethineb a rennir rhwng cenedlaethau. Mae’r wythnos hon yn ein hatgoffa o bwysigrwydd y perthnasoedd hyn a sut y gallwn ni ddysgu oddi wrth ein gilydd.”

Dywedodd y Cynghorydd Robert Walsh, Aelod Arweiniol dros Wasanaethau Plant: “Mae Wythnos Pontio’r Cenedlaethau yn ffordd wych o gydnabod y cysylltiadau buddiol o’r ddwy ochr sy’n bodoli rhwng cenedlaethau iau a chenedlaethau hŷn. Y rhodd fwyaf y gallwn ei derbyn gan y rheini sy’n iau na ni ac sy’n hŷn na ni yw gwybodaeth, dealltwriaeth a pharch o’r ddwy ochr. Mae ein bywydau yn cael eu cyfoethogi trwy bobl hŷn sydd â phrofiadau nad ydym, neu nad ydym eto, wedi eu hwynebu.  Hefyd, rydym yn cael ein cyfoethogi gan y rheini sy’n iau na ni gan y gallwn ddysgu oddi wrthynt hefyd. Efallai ein bod wedi bod yn ifanc ein hunain ond mae profiadau’n esblygu dros amser fel y gallwn bob amser ddysgu rhywbeth newydd gan y rheini sy’n iau na ni. Rwy’n cefnogi diben a nodau Wythnos Pontio’r Cenedlaethau ac yn dymuno pob llwyddiant iddi.”

Os ydych am gael rhagor o wybodaeth, neu os ydych am drafod unrhyw syniadau yn ymwneud â phontio’r cenedlaethau, e-bostiwch Vicki Lindley-Jones yn commissioning@wrexham.gov.uk

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

Rhannu
Erthygl flaenorol Safonau Masnach yn dal i roi pwysau ar werthwyr tybaco a fêps anghyfreithlon Safonau Masnach yn dal i roi pwysau ar werthwyr tybaco a fêps anghyfreithlon
Erthygl nesaf Ruthin Road Car Park Wrecsam v Charlton: Rhowch gynnig ar y gwasanaeth Parcio a Theithio newydd ar Ffordd Rhuthun

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Minera Roof Trusses
Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi
Busnes ac addysg
Awst 28, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd
Arall Pobl a lle
Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lle Y cyngor
Awst 27, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Tattoo Cymru 2026
DigwyddiadauPobl a lle

Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam gyda Salíwt i Filwr y Môr

Awst 26, 2026
Mayor at the Welsh Blood Service donation clinic
ArallPobl a lle

Maer yn rhoi gwaed i gefnogi ymgyrch rhoi

Awst 26, 2026
Mayor of Wrexham attending Dolywern summer fair
Pobl a lle

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Awst

Awst 25, 2026
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Awst 25, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English