Gyda’r 6 Ionawr yn prysur agosáu, mae llawer o bobl yn tynnu eu haddurniadau Nadolig am flwyddyn arall.
Ond, a oeddech chi’n gwybod bod modd defnyddio gwasanaethau’r cyngor i gael gwared ar eich coed Nadolig go iawn (nad ydynt yn ffug)?
Gellir malu’r coed yn ddarnau bach a’u rhoi mewn biniau ailgylchu gwyrdd neu gellir eu cymryd i unrhyw un o’r tri chanolfan ailgylchu cartref.
Dywedodd y Cyng. David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym yn gobeithio y bydd pawb yn cymryd mantais o’n cyfleusterau a’n gwasanaethau ailgylchu ac yn cael gwared ar eu coed Nadolig mewn modd cyfrifol.”
- Mae Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref Bryn Lane ar agor rhwng 8am a 8 pm bob dydd, ac eithrio Dydd Nadolig
- Mae Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref Plas Madog a’r Lodge ar agor rhwng 9am a 4pm
DILYNWCH NI AR SNAPCHAT