Unwaith eto rydym wedi cael ein galw i gael gwared ar dipio anghyfreithlon yn ardal Wrecsam – y tro hwn yn Corkscrew Lane ym Mhentre Bychan.
Roedd nifer o fagiau eraill tebyg mewn cilfan arall – i gyd wedi’u rhoi’n daclus mewn bag ac wedi’u gadael i ni gael gwared ohonynt.
Y drafferth ydi mae cael gwared ar y sbwriel hwn yn costio i ni. Mae’n rhaid i ni anfon tîm i gael gwared ohonynt, ond hefyd maen nhw’n treulio amser yn gweld os oes unrhyw eitemau fel llythyrau neu labeli yn y bagiau i weld os allwn ni daclo’r troseddwyr.
Dywedodd yr unigolyn wnaeth roi gwybod i ni am y tipio anghyfreithlon “Rydym yn byw mewn byd trist iawn pan fo pobl yn gallu gwneud hyn ar lôn wledig hyfryd” – ac rydym yn cytuno’n llwyr ag o.
Os ydych yn gwybod pwy yw’r troseddwr, cysylltwch â ni ar 01978 298989 – bydd unrhyw wybodaeth rydych chi’n ei rhoi i ni yn cael ei chadw’n gyfrinachol.
“Mae’n anodd credu’r peth”
Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Y rhan drist i ni yw bod pwy bynnag sydd wedi gadael y sbwriel yma wedi gorfod gyrru i’r ardal – pam na fydden nhw wedi gallu mynd ychydig ymhellach i un o’n Canolfannau Ailgylchu?
“Mae’n anodd credu eu bod yn mynd i gymaint o drafferth a’r posibilrwydd o ymddangos yn y llys a chosb sylweddol, na chael gwared ar eu sbwriel yn y ffordd gywir.
“Rwy’n annog unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth am hyn neu unrhyw dipio anghyfreithlon arall i gysylltu â ni a’n helpu i stopio’r rheiny sy’n gwasgaru eu sbwriel yn ein cymunedau hyfryd.”
I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar Gynllun y Cyngor, cliciwch yma
DWI ISIO MYNEGI FY MARN!
DOES DIM OTS GEN