Mae’r Baneri sy’n perthyn i gyn-filwyr o’r Wythfed Fyddin, y rhai a ymladdodd yn Rhyfel Corea, milwyr Seren Byrma a’r rhai a oroesodd y brwydro yn Normandi, wedi dychwelyd i Siambr y Cyngor yn Neuadd y Dref. Fe’u rhoddwyd inni yn 2016 i’w cadw’n ddiogel ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, ac ar ôl eu hadnewyddu’n llwyr mae’r cyhoedd yn medru eu gweld o’r diwedd.
Y nod wrth dderbyn y baneri oedd eu hadnewyddu a’u diogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. I wneud hynny fe gynhalion ni apêl dorfol a chodi mwy na £12,000.
Gwnaethpwyd y gwaith adnewyddu yn Amgueddfa Hanes y Bobl ym Manceinion. Mae yno stiwdio cadwedigaeth â staff proffesiynol sydd wedi’u hyfforddi a’u hachredu. A hwythau’n arbenigo mewn tecstilau, yn enwedig felly rhai mawr, fflat fel baneri a llumanau, dyma’r dwylo delfrydol i ymddiried y baneri iddynt.
Fe gymerodd hi oddeutu 200 awr o waith i gyd wrth iddynt adfer y pedair baner a’u mowntio. Roedd hynny’n cynnwys glanhau, esmwytho crychau, creu bwrdd cefn a threulio oriau maith yn pwytho’r baneri’n sownd i’r bwrdd. Yna aethpwyd â’r baneri i Lerpwl i gael eu fframio’n broffesiynol gan gwmni Conservation Gilding.
Bydd lle parhaol i’r Baneri yn Siambr y Cyngor ac mae croeso i unrhyw un ddod i mewn i’w gweld. Os ydych chi yn y dref ac yn meddwl galw heibio, cofiwch fod y Siambr yn ystafell brysur iawn. Rhag ichi gael eich siomi, ffoniwch 01978 292000 i holi a yw’r Siambr yn rhydd neu beidio.
Meddai’r Cynghorydd David Griffiths, Cefnogwr y Lluoedd Arfog: “Mae’n fraint inni gael gofalu am y Baneri pwysig hyn, ac mae’n rhywbeth rydyn ni’n ei gymryd o ddifrif calon. Hoffwn ddiolch i bawb a fu wrthi’n codi arian a’r rhai a gyfrannodd, fel bod modd inni wneud y gwaith yma i sicrhau fod y Baneri’n ddiogel ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”
Cynhaliwyd seremoni fer yn ddiweddar a chafodd y rhai a fu’n codi arian ac yn ymwneud â’r gwaith adfer wahoddiad i weld ffrwyth eu llafur. Rhoddwyd bathodyn arbennig i bob un ohonynt hefyd, fel rhywbeth bach i gofio’r achlysur.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ysgol meithrin yn 2019 yw Chwefror 22
YMGEISIWCH NAWR