Mae ymchwil gan y Gwasanaeth Safonau Masnach Cenedlaethol yn codi pryderon am yr effaith y gallai sgamiau ei chael ar bobl wrth i fisoedd y gaeaf nesáu.
Maent yn datgan y byddai 13 miliwn o bobl ledled y wlad yn cael eu gwthio i argyfwng ariannol pe baent yn colli dim ond £100 – a gallai hynny ddigwydd i nifer o bobl yma yn Wrecsam felly byddwch yn wyliadwrus.
Maent hefyd yn rhagweld y bydd mwy o bobl yn agored i niwed gan don enfawr o sgamiau sydd ar ddod, lle mae troseddwyr yn targedu dioddefwyr ar stepen y drws, dros y ffôn, drwy’r post neu ar-lein – sydd i gyd yn ddulliau cyffredin o dwyllo pobl.
Wrth i ni gyd orfod wynebu’r angen i leihau faint yr ydym yn ei wario ar yr aelwyd, mae ein hymddygiad wrth brynu yn newid. Mae nifer o bobl yn dweud eu bod yn chwilio am fargeinion fwy nag erioed o’r blaen a bydd hynny’n arwain at nifer o bobl yn cael eu temtio gan nwyddau ffug a allai fod yn beryglus ac o ansawdd gwael iawn.
Mae cynnydd hefyd yn nifer y cwynion am sgamiau “gwelliannau gwyrdd i gartrefi” ochr yn ogystal â chynnydd mewn troseddau ar stepen y drws.
Dywedodd Roger Mapleson, Arweinydd Safonau Masnach a Thrwyddedu, “Heb os, mae pobl yn cael anhawster ymdopi â biliau’r cartref ar hyn o bryd oherwydd y cynnydd mewn prisiau ynni, cyfraddau llog a chostau bwyd. O ganlyniad, ac wrth i’r Nadolig nesáu, bydd llawer o bobl yn cael eu temtio gan gynigion sy’n ymddangos yn llawer rhy dda i fod yn wir.
“Ein cyngor bob amser ydy – os ydy’r pris yn rhy dda i fod yn wir – mae’n debygol ei fod! Byddwch yn wyliadwrus iawn dros y misoedd nesaf a chwestiynwch unrhyw beth a allai fod yn sgam. Gwrandewch ar eich teulu a’ch ffrindiau yn hytrach na hysbysebion ar-lein neu daflenni sy’n dod drwy’r post.”
Arwyddion i chwilio amdanynt er mwyn osgoi sgamiau
Mae sgamwyr yn dod yn fwyfwy soffistigedig ond gallwch ddysgu sut i adnabod arwyddion i osgoi cael eich twyllo.
Mae’r enghreifftiau canlynol yn arwyddion cyffredin y gallai rhywun fod yn ceisio eich twyllo:
- Peidiwch â chael eich rhoi dan bwysau i wneud unrhyw benderfyniadau ariannol yn y fan a’r lle. Cymerwch amser i aros a meddwl cyn rhoi unrhyw wybodaeth. Gallai hyn arbed cannoedd – neu hyd yn oed filoedd – o bunnau i chi. Cofiwch, ni fydd sefydliad dilys byth yn rhoi pwysau arnoch chi i wneud penderfyniadau yn syth.
- Peidiwch â chlicio ar unrhyw ddolen a anfonir atoch chi yn annisgwyl, hyd yn oed os yw’n ymddangos yn ddilys. Ewch i’r wefan swyddogol i gael y wybodaeth neu am y manylion cyswllt cywir i gysylltu eich hunan.
- Peidiwch â chael eich temtio gan nwyddau ffug. Gallent fod yn beryglus, maent yn debygol o fod o ansawdd gwael iawn – sy’n golygu y byddwch yn gorfod prynu rhai newydd yn fuan beth bynnag – a byddwch yn rhoi arian yn syth yn nwylo’r gangiau troseddol. Os yw cynnig yn swnio’n rhy dda i fod yn wir, mae’n debyg ei fod o!
- Peidiwch byth â chytuno i unrhyw un wneud gwaith i chi os ydynt yn curo ar eich drws heb wahoddiad, ffonio yn annisgwyl neu gysylltu â chi ar-lein.
Os ydych yn darganfod neu’n amau bod sgam yn digwydd, rhybuddiwch eich ffrindiau a’ch teulu. Os ydych wedi dioddef sgam, ffoniwch linell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1133
HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI