National Theatre Wales
General view GV Wrexham town centre. Hope Street Wrexham 22.04.2021

Mae TÎM Theatr Genedlaethol Cymru wedi treulio’r pedair blynedd ddiwethaf yn Wrecsam yn dod i adnabod y gymuned leol, y bobl a’r lle gan ofyn pa faterion sydd bwysicaf iddyn nhw.  Dewison nhw themâu cartref a digartrefedd yn ysbrydoliaeth ar gyfer y prosiect.

Mae ‘A Proper Ordinary Miracle’ yn berfformiad a fydd yn eich arwain chi o gwmpas y ddinas. Mentro drwy strydoedd Wrecsam a stopio mewn tirnodau ar y ffordd.  Mae’n cael ei gynnal ddydd Mawrth 15 Tachwedd am 7pm, dydd Mercher 16 Tachwedd am 3pm a dydd Iau 17 Tachwedd am 7pm.

Cymorth gyda chostau byw – hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi, lleihewch eich biliau, gofalwch am eich iechyd.

Mae perfformiadau hygyrch ar gael ddydd Gwener 18 Tachwedd am 7pm â dehongliad Iaith Arwyddion Prydain, dydd Sadwrn 19 Tachwedd am 11am â Disgrifiad Sain a Thaith Gyffwrdd cyn y perfformiad, ac am 3pm â dehongliad Iaith Arwyddion Prydain ac yn olaf, ddydd Sul 20 Tachwedd am 3pm â Disgrifiad Sain a Thaith Gyffwrdd cyn y perfformiad.

Dychmygwch y sefyllfa:

”Mae datblygwr eiddo’n cyrraedd y dref â chynlluniau i adeiladu Canolfan Fawr grand newydd, mae rhai wedi’u hudo, ac eraill yn amheus.  Wrth i’r peiriannau symud i mewn, mae gwrthryfel yn dechrau a llinellau’n cael eu tynnu rhwng protest a phŵer.

Dilynwch y cymeriadau hyn wrth iddyn nhw eich arwain chi ar siwrnai theatrig o gwmpas Wrecsam, gan daflu golau ar wleidyddiaeth lle, gofod a’r systemau yr ydym ni i gyd yn rhan ohonynt.

Pwy all alw Wrecsam yn gartref iddynt? Mae tynged y ddinas, ei phobl a’i dyfodol yn eich dwylo chi.”

Talu’r hyn y penderfynwch chi ei dalu

“Cewch chi dalu pris sydd orau gennych chi ar gyfer pob perfformiad o ‘A Proper Ordinary Miracle’. Mae sawl pris i ddewis ohonynt.  Rydym ni’n gwybod bod pris yn rhwystr i rai, felly bydd y rhai sy’n gallu fforddio talu ychydig yn fwy am eu tocynnau’n helpu ni i gefnogi’r rhai nad ydyn nhw’n gallu fforddio talu llawer.”

Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth ac archebu tocynnau ar-lein yn Theatr Genedlaethol Cymru.