Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae’r Gwasanaeth Safonau Masnach Cenedlaethol yn rhoi rhybudd am don enfawr o sgamiau dros y misoedd nesaf.
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Mae’r Gwasanaeth Safonau Masnach Cenedlaethol yn rhoi rhybudd am don enfawr o sgamiau dros y misoedd nesaf.
Y cyngor

Mae’r Gwasanaeth Safonau Masnach Cenedlaethol yn rhoi rhybudd am don enfawr o sgamiau dros y misoedd nesaf.

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 7, 2022 11:54 am
Rhannu
Darllen 5 funud
National Trading Standards
RHANNU

Mae ymchwil gan y Gwasanaeth Safonau Masnach Cenedlaethol yn codi pryderon am yr effaith y gallai sgamiau ei chael ar bobl wrth i fisoedd y gaeaf nesáu.

Maent yn datgan y byddai 13 miliwn o bobl ledled y wlad yn cael eu gwthio i argyfwng ariannol pe baent yn colli dim ond £100 – a gallai hynny ddigwydd  i nifer o bobl yma yn Wrecsam felly byddwch yn wyliadwrus.

Maent hefyd yn rhagweld y bydd mwy o bobl yn agored i niwed gan don enfawr o sgamiau sydd ar ddod, lle mae troseddwyr yn targedu dioddefwyr ar stepen y drws, dros y ffôn, drwy’r post neu ar-lein – sydd i gyd yn ddulliau cyffredin o dwyllo pobl.

Cymorth gyda chostau byw – hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi, lleihewch eich biliau, gofalwch am eich iechyd.

Wrth i ni gyd orfod wynebu’r angen i leihau faint yr ydym yn ei wario ar yr aelwyd, mae ein hymddygiad wrth brynu yn newid. Mae nifer o bobl yn dweud eu bod yn chwilio am fargeinion fwy nag erioed o’r blaen a bydd hynny’n arwain at nifer o bobl yn cael eu temtio gan nwyddau ffug a allai fod yn beryglus ac o ansawdd gwael iawn.

Mae cynnydd hefyd yn nifer y cwynion am sgamiau “gwelliannau gwyrdd i gartrefi” ochr yn ogystal â chynnydd mewn troseddau ar stepen y drws.

Dywedodd Roger Mapleson, Arweinydd Safonau Masnach a Thrwyddedu, “Heb os, mae pobl yn cael anhawster ymdopi â biliau’r cartref ar hyn o bryd oherwydd y cynnydd mewn prisiau ynni, cyfraddau llog a chostau bwyd. O ganlyniad, ac wrth i’r Nadolig nesáu, bydd llawer o bobl yn cael eu temtio gan gynigion sy’n ymddangos yn llawer rhy dda i fod yn wir.

“Ein cyngor bob amser ydy – os ydy’r pris yn rhy dda i fod yn wir – mae’n debygol ei fod! Byddwch yn wyliadwrus iawn dros y misoedd nesaf a chwestiynwch unrhyw beth a allai fod yn sgam. Gwrandewch ar eich teulu a’ch ffrindiau yn hytrach na hysbysebion ar-lein neu daflenni sy’n dod drwy’r post.”

Arwyddion i chwilio amdanynt er mwyn osgoi sgamiau

Mae sgamwyr yn dod yn fwyfwy soffistigedig ond gallwch ddysgu sut i adnabod arwyddion i osgoi cael eich twyllo.

Mae’r enghreifftiau canlynol yn arwyddion cyffredin y gallai rhywun fod yn ceisio eich twyllo:

  • Peidiwch â chael eich rhoi dan bwysau i wneud unrhyw benderfyniadau ariannol yn y fan a’r lle. Cymerwch amser i aros a meddwl cyn rhoi unrhyw wybodaeth. Gallai hyn arbed cannoedd – neu hyd yn oed filoedd – o bunnau i chi. Cofiwch, ni fydd sefydliad dilys byth yn rhoi pwysau arnoch chi i wneud penderfyniadau yn syth.
  • Peidiwch â chlicio ar unrhyw ddolen a anfonir atoch chi yn annisgwyl, hyd yn oed os yw’n ymddangos yn ddilys. Ewch i’r wefan swyddogol i gael y wybodaeth neu am y manylion cyswllt cywir i gysylltu eich hunan.
  • Peidiwch â chael eich temtio gan nwyddau ffug. Gallent fod yn beryglus, maent yn debygol o fod o ansawdd gwael iawn – sy’n golygu y byddwch yn gorfod prynu rhai newydd yn fuan beth bynnag – a byddwch yn rhoi arian yn syth yn nwylo’r gangiau troseddol. Os yw cynnig yn swnio’n rhy dda i fod yn wir, mae’n debyg ei fod o!
  • Peidiwch byth â chytuno i unrhyw un wneud gwaith i chi os ydynt yn curo ar eich drws heb wahoddiad, ffonio yn annisgwyl  neu gysylltu â chi ar-lein.

Os ydych yn darganfod neu’n amau bod sgam yn digwydd, rhybuddiwch eich ffrindiau a’ch teulu. Os ydych wedi dioddef sgam, ffoniwch linell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1133

O ran costau byw, gallai gwneud yn siwr eich bod yn hawlio yr holl gymorth a chefnogaeth y mae gennych hawl iddo wneud gwahaniaeth mawr.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://www.wrecsam.gov.uk/services/cymorth-gyda-chostau-byw”] HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Housing Symud y Tîm Dewisiadau a Dyraniadau Tai i Stryt y Lampint
Erthygl nesaf National Theatre Wales Theatr Genedlaethol Cymru yn Cyflwyno “A Proper Ordinary Miracle”

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

surgery to waterloo
Cadwch y Dyddiad: 24 Medi
Digwyddiadau
Medi 16, 2026
Crematorium
Gwaith gwella wedi’i gynllunio yn Amlosgfa Pentrebychan
Y cyngor
Medi 16, 2026
Dyfarnwyd grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru i Tŷ Pawb i ddatblygu cynlluniau ar gyfer gwella'r adeilad.
Dyfarnwyd grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru i Tŷ Pawb i ddatblygu cynlluniau ar gyfer gwella’r adeilad.
Pobl a lle
Medi 16, 2026
The Longest Yarn 2
Mae gwau lleol yn helpu i greu arddangosfa enfawr o’r Ail Ryfel Byd – peidiwch â cholli’ch cyfle i’w gweld!
Arall Digwyddiadau
Medi 15, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam

Medi 15, 2026
Cwmni gwaith coed o Wrecsam yn buddsoddi mewn gweithgynhyrchu uwch a thwf cynaliadwy
Y cyngor

Cwmni gwaith coed o Wrecsam yn buddsoddi mewn gweithgynhyrchu uwch a thwf cynaliadwy

Medi 15, 2026
Gwneuthurwr deunydd pecynnu o Wrecsam yn sicrhau grant Parth Buddsoddi i sbarduno twf a chreu swyddi
Y cyngor

Gwneuthurwr deunydd pecynnu o Wrecsam yn sicrhau grant Parth Buddsoddi i sbarduno twf a chreu swyddi

Medi 15, 2026
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Medi 14, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English