Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae’r iPads wedi cyrraedd, gan wneud gwahaniaeth mawr i gartrefi gofal yn Wrecsam!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Mae’r iPads wedi cyrraedd, gan wneud gwahaniaeth mawr i gartrefi gofal yn Wrecsam!
ArallPobl a lleY cyngor

Mae’r iPads wedi cyrraedd, gan wneud gwahaniaeth mawr i gartrefi gofal yn Wrecsam!

Diweddarwyd diwethaf: Mai 22, 2020 2:16 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
ipads
RHANNU

Mae cynllun arloesol Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru i ddarparu teclynnau iPad i breswylwyr cartrefi gofal yn Wrecsam wedi cyrraedd.

Bydd y teclynnau iPad yn helpu preswylwyr i gadw mewn cysylltiad gyda ffrindiau a theulu tra bod ymweliadau wedi cael eu cyfyngu yn ystod y Coronafeirws.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU

Mae’r teclynnau wedi cael eu dosbarthu i nifer o gartrefi gofal yn ardal Wrecsam, ac mae mwy ar y ffordd.

Darllenwch yr adborth ffantastig yma gan rai o’r Cartrefi Gofal sydd wedi derbyn eu teclynnau iPad…

Dywedodd Gary, Rheolwr Cartref Gofal Ashgrove yng Ngresffordd, “Diolch yn fawr am adael i ni gael iPad, mae ein preswylwyr yn cael gweld eu perthnasau ar ‘FaceTime’, ac roedd modd i ni ddefnyddio’r iPad i ddathlu Diwrnod VE yn ddiweddar.”

Dywedodd Sue Barton, Rheolwraig yn Oak Alyn yng Nghefn y Bedd, “Mae’r teclynnau iPad wedi gwneud gwahaniaeth mawr i breswylwyr yma yn Oak Alyn. Mae un o’n preswylwyr wedi gallu ei defnyddio i gael sgwrs gyda’i phlant ar yr un pryd ar FaceTime, mae un yn byw yn Wrecsam a’r llall yn Hong Kong – roedd hynny’n wych. Roedd modd i breswylydd arall ddefnyddio FaceTime gyda’u perthynas yn Awstralia, doedden nhw heb weld eu gilydd ers 8 mlynedd – roedd honno’n alwad emosiynol iawn!!”

Dywedodd Katie Williams, Cydlynydd Gweithgareddau yng Nghartref Gofal Lindan House, “Am wahaniaeth y mae hyn wedi’i wneud i’r preswylwyr, yn ogystal â gallu cadw mewn cysylltiad â’u teuluoedd, rydym wedi gallu lawrlwytho rhywfaint o weithgareddau ar yr iPad er mwyn i breswylwyr fwynhau a chymryd rhan, ac maen nhw wirioneddol yn mwynhau, mae un o’n preswylwyr wedi bod yn cyd-ganu i Bohemian Rhapsody gan Queen!!”

Mae’r iPads wedi cyrraedd, gan wneud gwahaniaeth mawr i gartrefi gofal yn Wrecsam!
Mae’r iPads wedi cyrraedd, gan wneud gwahaniaeth mawr i gartrefi gofal yn Wrecsam!
Mae’r iPads wedi cyrraedd, gan wneud gwahaniaeth mawr i gartrefi gofal yn Wrecsam!

 

Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://icc.gig.cymru/pynciau/gwybodaeth-ddiweddaraf-am-coronavirus-newydd-covid-19/”] Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Tŷ Pawb: Hanner tymor mis Mai ar y we Tŷ Pawb: Hanner tymor mis Mai ar y we
Erthygl nesaf Covid 19 Covid-19 (Novel Coronavirus) – nodyn briffio’r cyhoedd 22.5.20

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 2, 2026
Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
Tattoo Cymru 2026
DigwyddiadauPobl a lle

Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam gyda Salíwt i Filwr y Môr

Awst 26, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English