Yn ystod yr wythnosau nesaf, os ydych chi’n digwydd gweld arwyddion terfyn cyflymder ar goll, sy’n gwrthddweud ei gilydd neu wedi’u fandaleiddio, cysylltwch â ni.
Mae menter 20mya Llywodraeth Cymru yn fyw ac mae gwaith Cyngor Wrecsam i ddadorchuddio’r arwyddion 20mya newydd wedi dechrau ddydd Sul, ar ôl misoedd o baratoadau.
Mae’n bwysig iawn gwneud yn siŵr bod popeth yn gywir a chlir i bawb ar hyd a lled y fwrdeistref. Felly, rŵan bod yr arwyddion wedi’u gosod, rydym ni’n gofyn i chi ein helpu ni drwy anfon neges i 20mphTrafficSigns@wrexham.gov.uk os ydych chi’n digwydd gweld unrhyw beth o’i le.
Meddai’r Cyng. Hugh Jones, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “Mae ymgymryd â’r gwaith i baratoi ar gyfer menter 20mya y llywodraeth wedi bod yn dasg fisoedd o hyd, ac roedd yn rhaid aros tan ddydd Sul 17 Medi cyn dadorchuddio’r arwyddion newydd. Felly rydym ni’n gofyn i’r cyhoedd fod yn amyneddgar wrth i ni barhau i weithio ac i roi gwybod i ni os ydynt yn gweld unrhyw beth sy’n peri dryswch.”
Mae mwy o wybodaeth ar dudalen Cwestiynau Cyffredin Llywodraeth Cymru a thudalen we cyfyngiadau cyflymder 20mya yng Nghymru Cyngor Wrecsam.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.