Os ydych chi’n agos gyda rhywun sydd â dementia, byddwch yn gwybod am yr heriau maent yn ei wynebu.
Gall fywyd dydd i ddydd fod yn hynod o anodd i’r unigolion a’u teuluoedd.
Ond nid ydynt ar eu pen eu hunain, ac mae digon o gymorth ar gael yma yn Wrecsam.
Er enghraifft, gall ein tîm Gweithwyr Proffesiynol Iechyd Perthynol helpu mewn nifer o ffyrdd.
Mae’r tîm yn cynnwys:
- Therapyddion lleferydd, a all gynnig awgrymiadau a thechnegau i helpu pobl i fynegi eu hunain yn well a gwella eu hyder trwy siarad.
- Dietegwyr, a all helpu unigolion a’u teuluoedd ddilyn ffordd o fyw iach, a helpu i fynd i’r afael â rhai o sgil effeithiau dietegol cyffredin dementia (e.e. newid mewn chwant bwyd).
- Ffisiotherapyddion, a all helpu pobl gynnal eu symudedd, cadw’n actif yn gorfforol a lleihau eu risg o ddisgyn.
- Therapyddion galwedigaethol, a all edrych ar ffyrdd i addasu’r cartref i gynorthwyo unigolion a gofalwyr.
Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.
Sut i gael cymorth
Os oes gennych berthynas sy’n byw gyda dementia, ac os ydych yn ystyried sut i gael help gan y tîm, siaradwch gyda’ch meddyg teulu neu Glinig Cof.
Yn ogystal â darparu cymorth gyda lleferydd, diet, symudedd ac addasiadau i’r cartref, gall y tîm hefyd atgyfeirio unigolion a theuluoedd at wasanaethau cymorth eraill.
Dywed Steve Catherall, sy’n gweithio fel Arweinydd Tîm: “Mae’r pandemig coronafeirws wedi gwneud pethau hyd yn oed yn fwy anodd i nifer o deuluoedd, ond rydym yma i helpu.
“Rydym wedi cefnogi bron i gant o bobl gyda dementia a’u teuluoedd yn y 12 mis diwethaf, ac wedi dod o hyd i ffyrdd arloesol i helpu…hyd yn oed pan mae’r cyfyngiadau wedi golygu llai o ymweliadau i’r cartref.
“Mae byw gyda dementia yn her anferth, ac rydym yn ceisio cefnogi unigolion a theuluoedd cymaint â gallwn ni.”
Dywedodd y Cynghorydd Joan Lowe, Aelod Arweiniol Cyngor Wrecsam dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Mae’r prosiect AHP yno i gefnogi pobl sydd wedi cael diagnosis dementia yn ddiweddar.
“Mae’n cael ei beilota yn Wrecsam, a’r gobaith yw y caiff ei ehangu yn y dyfodol i gynnwys Gogledd Cymru gyfan.
“Mae’n canolbwyntio ar gefnogi lles corfforol a seicolegol unigolion, gwella eu profiad byw o ddydd i ddydd, addasu eu cartrefi a’u hamgylchedd, a chefnogi eu teuluoedd a gofalwyr.
“Rwy’n falch iawn o waith y tîm – mae’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ac yn esiampl arall o’r ffordd mae Wrecsam wedi ymrwymo i helpu pobl sy’n byw gyda dementia.”
Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF