Mae ein hymgynghoriad ynglŷn ag ailgyflwyno ffioedd parcio mewn meysydd parcio canol y ddinas a weithredir gan y Cyngor o 1 Ebrill, 2024 ar agor, felly os ydych eisiau cael dweud eich dweud ar y cynigion dyma’ch cyfle i wneud hynny.
Ar hyn o bryd mae bob maes parcio’r Cyngor yng nghanol y ddinas heblaw Tŷ Pawb am ddim i’w defnyddio ar ôl 11am. Sefydlwyd hyn i gefnogi gweithwyr allweddol a busnesau yng nghanol y ddinas yn ystod ac ar ôl y pandemig coronafeirws.
Rydym bellach mewn sefyllfa ble mae’n rhaid i ni ail-edrych ar hyn wrth i ni ganfod arbedion effeithlonrwydd i ddeilio gyda diffyg o £22.6 miliwn yn y gyllideb y flwyddyn nesaf. Cynigir y bydd ffioedd ar gyfer parcio ar ôl 11am yn dod i rym o 1 Ebrill, 2024.
Bydd yr ymgynghoriad statudol hwn yn weithredol o 9 Chwefror, 2024 tan 8 Mawrth, 2024.
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam: “Rydym yn parhau i edrych ar lawer o syniadau gwahanol a chyfleoedd a fydd yn ein helpu i ganfod arbedion, ac yn anffodus mae ailgyflwyno ffioedd meysydd parcio o 1 Ebrill yn rhywbeth rydym wedi gorfod edrych arno. Rydym wedi ymrwymo i gefnogi siopwyr, ymwelwyr a busnesau trwy gadw’r ffioedd hyn yn deg ac rydym yn croesawu pawb i gymryd rhan yn ein hymgynghoriad ar hyn.”
Gallwch gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ffioedd meysydd parcio ar-lein trwy Eich Llais.
Neu gallwch e-bostio eich ymateb i: parking@wrexham.gov.uk
Gallwch wneud cais i weld copïau papur o unrhyw ddogfennau a chynlluniau drafft yn:
Adran yr Amgylchedd, De Ffordd yr Abaty, Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam, LL13 9PW
Galw Wrecsam (yn Llyfrgell Wrecsam), Ffordd Rhosddu, Wrecsam, LL11 1AU
Sicrhewch y cyflwynir eich ymateb cyn i’r ymgynghoriad gau ar 8 Mawrth, 2024.
CYMRYD RHAN YN YR YMGYNGHORIAD
Dweud eich dweud ar y ffordd rydym yn rheoli llifogydd (wrecsam.gov.uk)