Yn ddiweddar, bu Maer Wrecsam yn ymweld ag Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam lle mae gwirfoddolwyr wedi dod ynghyd i ddarparu cymorth y mae mawr ei angen ar bobl Wcráin.
Tra bod y cyfnod o bryder yn parhau, daeth pobl o bob cwr o’r DU i Wrecsam i roi help llaw neu ddod â rhoddion ar gyfer y rhai sydd wedi’u heffeithio gan oresgyniad Rwsia yn Wcráin. Roedd ciwiau o gerbydau yn y maes parcio gydag eitemau ar gyfer yr achos, neu’n cynnig cymryd bocsys i fan gollwng oedd wedi’i drefnu.
Y tu mewn i uned F. Lloyd Warehousing, roedd gwirfoddolwyr yn trefnu rhoddion mewn i gategorïau a bocsys. Roedd y rhain yn amrywio o fwyd, dillad a phethau ymolchi, i deganau ar gyfer y plant. Yna cafodd y bocsys eu casglu gan wirfoddolwyr sydd wedi bod yn mynd â’r cyflenwadau at y ffin rhwng Gwlad Pwyl ac Wcráin.
Gweld pethau â’i lygaid ei hun
Cafodd Maer Wrecsam, y Cynghorydd Ronnie Prince ei wahodd i ddod draw i weld y gwaith diflino roedd y gwirfoddolwyr yn ei wneud yn eu hymgais i geisio helpu.
Cafodd gyfle i siarad gyda rhai o’r trefnwyr sydd wedi trefnu’r ymgais ddyngarol cyn i’r confoi gychwyn ar ei daith at y ffin.
Ar ôl gweld maint yr ymdrech a’r weithred, dywedodd: “Mae gweld cymaint o bobl yn dod ynghyd i helpu pobl yn ystod y cyfnodau anodd yn gwneud i mi deimlo’n ddiymhongar iawn. Wrth gwrs, mae’r rheswm dros gychwyn y fenter hon yn dorcalonnus, ond mae’n ffordd arall y gall Wrecsam ddangos cryfder a chefnogaeth ag Wcráin yn ystod y cyfnodau anodd yma.”
“Fe hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi rhoi unrhyw beth neu sydd wedi rhoi eu hamser i becynnu’r cyflenwadau mewn i focsys neu eu cludo draw at y ffin. Rydw i hefyd yn diolch i’r rhai sydd wedi trefnu’r cyfan. Rydych chi gyd yn gwneud gwaith hanfodol, ac rydych chi’n glod i gymuned Wrecsam”.