Cynghorir y preswylwyr y bydd y maes parcio bychan yng nghanol y dref yn cau ar ddechrau’r mis nesaf.
Bydd maes parcio Ffordd Rhosddu, y tu cefn i Lyfrgell Wrecsam, yn cau’n barhaol i’r cyhoedd o ddydd Sul, 13 Awst.
Bydd y maes parcio, sy’n darparu wyth gofod parcio i bobl anabl, yn cau pan fydd hen adeilad yr oriel yn cael ei drawsnewid i fod yn bencadlys canol y dref ar gyfer Heddlu Gogledd Cymru, gan ddisodli’r safle presennol ym Modhyfryd.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Gyda’r heddlu’n defnyddio’r safle, ni ellir parhau i ddefnyddio’r tir y tu cefn i’r llyfrgell fel maes parcio cyhoeddus.
Lleoedd amgen sydd ar gael
Bydd gofodau parcio amgen i bobl anabl ar gael ym maes parcio’r Llyfrgell.
O ganlyniad i gau maes parcio Ffordd Rhosddu, mae capasiti gofodau parcio i bobl anabl yn safle’r llyfrgell wedi cynyddu o 15 i 23 – gan ddisodli’r wyth fydd yn cael eu colli drwy gau maes parcio Ffordd Rhosddu.
Dim ond 150 llath sydd o faes parcio’r Llyfrgell i faes parcio Ffordd Rhosddu. Mae maes parcio cyfagos Neuadd y Dref, gyda phedwar gofod parcio i bobl anabl, hefyd ar agor i’r cyhoedd ar ddydd Sadwrn a dydd Sul.
Dywedodd y Cyng. David A. Bithell, Aelod Arweiniol ar gyfer yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth: “Nid ydym eisiau colli darpariaeth parcio i bobl anabl yng nghanol y dref, ond yn ffodus, mae maes parcio Ffordd Rhosddu mor agos i’r meysydd parcio eraill fel mai dim ond effaith fechan iawn y bydd yn ei gael ar ddefnyddwyr.
“Rydym hefyd wedi disodli’r gofodau sy’n cael eu colli yn Ffordd Rhosddu trwy gynyddu’r ddarpariaeth ym maes parcio’r Llyfrgell, gan olygu bod darpariaeth parcio ar gyfer defnyddwyr anabl yn aros yr un fath”.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI