Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mam efeilliaid yn annog mwy o bobl i ddod yn rhoddwyr gwaed sy’n achub bywydau.
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Rhesymau dros ymuno ag ymgyrch "Fix It Feb" Caffi Trwsio Cymru
Rhesymau dros ymuno ag ymgyrch “Fix It Feb” Caffi Trwsio Cymru
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Heart tree - love your environment this Valentine's Day
Sut y gallwch chi garu’ch amgylchedd ar Ddydd Sain Folant (14 Chwefror)
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Darpariaeth symudol newydd i bobl ifanc yn cael ei lansio ar 17 Chwefror...
Darpariaeth symudol newydd i bobl ifanc yn cael ei lansio ar 17 Chwefror…
Pobl a lle Y cyngor
Image from St David's Day Parade of group of children holding a Welsh flag
Wrecsam yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi gyda rhaglen lawn yng nghanol y ddinas
Digwyddiadau Pobl a lle
EV charging
Gwefru rhatach ar gyfer cerbydau trydan i breswylwyr Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Mam efeilliaid yn annog mwy o bobl i ddod yn rhoddwyr gwaed sy’n achub bywydau.
Arall

Mam efeilliaid yn annog mwy o bobl i ddod yn rhoddwyr gwaed sy’n achub bywydau.

Diweddarwyd diwethaf: 2024/03/06 at 11:49 AM
Rhannu
Darllen 4 funud
Mam efeilliaid yn annog mwy o bobl i ddod yn rhoddwyr gwaed sy'n achub bywydau.
RHANNU

Erthygl gwadd – Gwasanaeth Gwaed Cymru

Ar Sul y Mamau eleni, mae Bethan Dyke, sy’n fam i ddau o blant, yn eiriol dros fwy o roddwyr i ddod ymlaen ar ôl derbyn trallwysiadau gwaed a achubodd ei bywyd oherwydd cymhlethdodau yn dilyn genedigaeth ei hefeilliaid.

Fe wnaeth Bethan a’i phartner Craig Keohane o Donyrefail, ddarganfod eu bod yn disgwyl efeilliaid yn gynnar yn 2022. Yn hwyr yn y beichiogrwydd, ar ôl i gyfradd twf Ella, un o’r babanod, arafu, fe wnaeth arbenigwr o Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd y penderfyniad i eni’r efeilliaid trwy doriad cesaraidd wedi’i gynllunio.

Er yn gynharach na’r disgwyl, rhoddodd Bethan enedigaeth i ddau o fabanod iach, Isaac ac Ella, yn Ysbyty’r Tywysog Charles ym Merthyr Tudful. Wrth fyfyrio am y diwrnod, dywedodd Bethan:

“Pan gawsant eu geni, roeddwn yn teimlo gymaint o emosiwn a rhyddhad eu bod yn ffit ac yn iach. Ni fuasem wedi gallu bod yn rhieni hapusach. “

Funudau wedi’r geni, dechreuodd Bethan ddioddef cymhlethdodau.

Ychwanegodd: “Tra bo Craig a finnau yn dal y babanod, aeth y tîm meddygol ati i gwblhau’r llawdriniaeth, a dyna pryd y dechreuodd yr awyrgylch yn y theatr newid, gyda mwy a mwy o nyrsys a meddygon yn dod i fewn.

“Tua’r adeg yma, cafodd y babanod eu tynnu oddi arna i, a gofynnwyd i Craig adael y theatr.”

Yn dilyn yr enedigaeth, collodd Bethan tua thri litr a hanner o waed, sef dros hanner gwaed ei chorff. Bu’r tîm meddygol yn gweithio’n gyflym i sefydlogi Bethan ac ymyrryd gyda sawl trallwysiad gwaed i helpu i achub ei bywyd.

Diolch byth, fe wnaeth Bethan wella’n llwyr o’i llawdriniaeth ac fe aeth hi’n ôl adref gyda Craig a’r efeilliaid yn fuan wedyn, gan fwynhau bywyd teuluol gyda’i gilydd.

Wrth siarad am ei phrofiad, dywedodd Bethan: “Rwyf mor ddiolchgar am y rhoddwyr hynny a roddodd waed cyn i mi fod angen y trallwysiadau gwaed hollbwysig hynny. Hebddyn nhw ac ymateb cyflym y tîm meddygol, gallai canlyniad y diwrnod hwnnw fod wedi bod yn wahanol iawn i mi a fy nheulu.”

Mae angen tua 350 o roddion gwaed ar Wasanaeth Gwaed Cymru bob dydd i helpu’r 19 ysbyty yng Nghymru, gan gynnwys Ysbyty’r Tywysog Siarl, lle cafodd Bethan ei thrallwysiadau.

Dywedodd Alan Prosser, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwaed Cymru: “Rydym angen 5,000 o roddion y flwyddyn ar gyfer mamau a babanod yn ystod genedigaeth yn unig – dyna filoedd o famau a babanod a fydd wedi cael canlyniadau gwell, sydd wedi achub eu bywydau yn aml, diolch i haelioni ein rhoddwyr. Drwy ildio dim ond awr o’ch amser, mae gennych gyfle unigryw i gefnogi mamau fel Bethan sy’n dibynnu ar drallwysiadau i oroesi yn dilyn cymhlethdodau ar ôl rhoi genedigaeth.

“Mae Sul y Mamau yn gyfle i ni godi ymwybyddiaeth o’r pwysigrwydd o roi gwaed sy’n achub bywydau, ac annog y rheini sydd erioed wedi rhoi gwaed i fynd amdani.

“Mae rhannu stori Bethan a Craig yn tynnu sylw at wir werth dim ond un rhodd o waed, a’r gwahaniaeth mae’n ei wneud, nid yn unig i’r sawl sy’n derbyn y trallwysiad ond hefyd, i’w teulu a’u hanwyliaid. Diolch i’n rhoddwyr, gall Bethan edrych ymlaen at y cerrig milltir arbennig hynny fel teulu gydag Ella, Isaac a Craig.”

I ddysgu mwy am roi gwaed, platennau, a mêr esgyrn neu i wneud apwyntiad i roi rhodd a allai achub bywyd, ewch i www.welshblood.org.uk.

Rhannu
Erthygl flaenorol Ymgyrch ‘Dewis Diogel nid Ffug’ yn targedu newyddau harddwch a hylendid ffug Ymgyrch ‘Dewis Diogel nid Ffug’ yn targedu newyddau harddwch a hylendid ffug
Erthygl nesaf His Royal Highness Prince Williams meets schoolchildren at All Saints School in Wrexham Mwy o luniau o’r ymweliad Brenhinol ag Ysgol yr Holl Saint

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Rhesymau dros ymuno ag ymgyrch "Fix It Feb" Caffi Trwsio Cymru
Rhesymau dros ymuno ag ymgyrch “Fix It Feb” Caffi Trwsio Cymru
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Chwefror 13, 2026
Heart tree - love your environment this Valentine's Day
Sut y gallwch chi garu’ch amgylchedd ar Ddydd Sain Folant (14 Chwefror)
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Chwefror 13, 2026
Darpariaeth symudol newydd i bobl ifanc yn cael ei lansio ar 17 Chwefror...
Darpariaeth symudol newydd i bobl ifanc yn cael ei lansio ar 17 Chwefror…
Pobl a lle Y cyngor Chwefror 11, 2026
Image from St David's Day Parade of group of children holding a Welsh flag
Wrecsam yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi gyda rhaglen lawn yng nghanol y ddinas
Digwyddiadau Pobl a lle Chwefror 10, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

'Amgueddfa Dau Hanner' Wrecsam yn coffáu pen-blwydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn 150 oed - mewn lluniau
30
Arall

‘Amgueddfa Dau Hanner’ Wrecsam yn coffáu pen-blwydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn 150 oed – mewn lluniau

Chwefror 4, 2026
Diweddariad ar safle tirlenwi Hafod – Tachwedd 2025
ArallArall

Diweddariad ar safle tirlenwi Hafod – Tachwedd 2025

Rhagfyr 1, 2025
Young Carers meeting
Arall

Amser i ofalwyr Ifanc Ddisgleirio

Tachwedd 25, 2025
Ambition North Wales Logo
ArallPobl a lle

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru wedi’i Gymeradwyo – Carreg Filltir ar gyfer Cysylltedd Cynaliadwy

Hydref 29, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English