Gall y rhai gyda cheir trydan nawr wefru eu ceir yn Nhŷ Pawb wrth i’r mannau gwefru ddod ar gael i’r cyhoedd.
Mae’r ddau fan gwefru ar lawr cyntaf y maes parcio ar gyfer ceir trydan yn unig.
Yn ogystal â’r ffi parcio arferol, bydd y gost o wefru eich cerbyd yn 50c am gysylltu a 30c bob kW yr awr. Bydd tâl am aros yn hwy na 4 awr o £10.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM DDIWEDDARIADAU WYTHNOSOL.
“Mae gennym rôl i’w chwarae”
Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rwy’n falch iawn ein bod yn cyflwyno’r rhaglen o fannau gwefru ceir trydan. Fel awdurdod lleol mae gennym ran i’w chwarae wrth helpu gyrwyr i fynd yn wyrdd a newid i geir trydan. Mae’r cynllun yn ategu ein hymrwymiad i leihau carbon ac arbed ynni.”
“Gyda’r gwaharddiad ar werthu ceir disel a phetrol o 2040, mae’n debygol iawn y bydd mwy o alw am fannau gwefru ac mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod yn hwyluso’r galw yn ein datblygiadau yn y dyfodol.”
Y mannau gwefru hyn yw’r cyntaf o nifer fydd ar gael yn y fwrdeistref sirol cyn y Nadolig, ac yn fuan bydd gyrwyr yn gallu gwefru ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun, Parc Gwledig Tŷ Mawr, Canolfan y Byd Dŵr a Basn Trefor.
Byddwn yn eich hysbysu pan fydd y rhain yn barod i’w defnyddio.
Mae’r mannau gwefru wedi eu cyllido gan yr incwm o’n Fferm Solar Legacy. Bydd unrhyw incwm o’r elfen wefru yn mynd yn ôl i’r Gyllideb Garbon ar gyfer prosiectau yn y dyfodol.
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.
COFIWCH EICH BINIAU