Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen MANWERTHWR TYBACO ANGHYFREITHLON ARALL WEDI EI GAU GAN SAFONAU MASNACH WRECSAM
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Rhybudd tywydd - 26-27 Awst
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > MANWERTHWR TYBACO ANGHYFREITHLON ARALL WEDI EI GAU GAN SAFONAU MASNACH WRECSAM
Y cyngor

MANWERTHWR TYBACO ANGHYFREITHLON ARALL WEDI EI GAU GAN SAFONAU MASNACH WRECSAM

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 14, 2025 1:48 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
MANWERTHWR TYBACO ANGHYFREITHLON ARALL WEDI EI GAU GAN SAFONAU MASNACH WRECSAM
RHANNU

Mae siop gyfleustra yng nghanol y ddinas wedi cael gorchymyn i gau am dri mis yn dilyn camau gweithredu gan wasanaeth Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Wrecsam gyda chymorth Heddlu Gogledd Cymru.

Cafodd y gorchymyn i gau, a roddwyd gan Lys Ynadon Wrecsam, ei wneud yn erbyn Easy Shop yn 24 King Street, Wrecsam.

Fe’i dyfarnwyd yn dilyn cais i’r llys gan swyddogion Safonau Masnach a nododd achosion lu o werthu ac atafael sigaréts anghyfreithlon dros y misoedd diwethaf.

Mae’r gorchymyn yn golygu bod y safle wedi’i gau a’i gloi a bydd yn aros felly tan 11 Mai 2025.

Daw hyn yn dilyn camau gweithredu tebyg gan y Cyngor pan gaewyd Kalar Mini Market yn Rhiwabon am 3 mis ddiwedd mis Ionawr.

Dywedodd Roger Mapleson, yr Arweinydd Safonau Masnach a Thrwyddedu, “Mae’r cynnydd cyflym yn nefnydd fêps gan bobl nad ydynt erioed wedi ysmygu a’u defnydd gan blant yn peri pryder mawr ac mae’n dda gweld bod Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn symud ymlaen tuag at ddeddfwriaeth newydd yn ddiweddarach eleni a fydd yn helpu i reoli’r cyflenwad o fêps a thybaco anghyfreithlon a chefnogi cynnydd tuag at amcan Llywodraeth Cymru o gael Cymru ddi-fwg erbyn 2030.”

“Mae gwerthu cynhyrchion anghyfreithlon yn ein cymuned yn peri pryder arbennig ac ni fyddwn yn oedi cyn defnyddio’r pwerau cyfreithiol sydd gennym i ddiogelu iechyd a lles ein pobl ifanc. Mae sigaréts a thybaco rholio rhad sydd ar gael yn hawdd yn ei gwneud hi’n haws i blant ddod yn gaeth i gynnyrch marwol hyd eu hoes ac yn anoddach i ysmygwyr sy’n oedolion roi’r gorau iddi. Mae fêps tafladwy rhad hefyd yn peri risg i iechyd plant nad ydynt yn ysmygu ac mae’r nifer fawr ohonynt sy’n cael eu taflu yn achosi problemau amgylcheddol mawr ac wedi achosi nifer o danau yn y diwydiant gwastraff.

“Rwy’n croesawu canlyniad y gweithredu hwn gyda’r effaith ymarferol iawn o gau’r safle am gyfnod sylweddol o amser.

“Mae’r tarfu hwn nid yn unig yn effeithio ar berchennog y busnes ond hefyd ar berchennog yr eiddo na fydd yn gallu defnyddio na rhentu’r safle at unrhyw ddiben am y tri mis nesaf. Byddwn yn parhau i gymryd y camau cyfreithiol effeithiol iawn hyn i gosbi’r fasnach anghyfreithlon hon, a tharfu arni.

“Os ydych yn landlord neu’n asiant eiddo gyda thenantiaid sy’n torri’r gyfraith fel hyn, byddwch yn ymwybodol y gellir cymryd camau tebyg gan arwain at golli defnydd o’r safle drwy orchymyn y Llys.”

Rhannu
Erthygl flaenorol Show some love to your environment this Valentine’s Day Dangoswch gariad tuag at eich amgylchedd ar Ddydd San Ffolant
Erthygl nesaf Swift Digwyddiad am ddim – dysgwch am wenoliaid duon!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lle Y cyngor
Awst 27, 2026
Tattoo Cymru 2026
Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam gyda Salíwt i Filwr y Môr
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 26, 2026
Mayor at the Welsh Blood Service donation clinic
Maer yn rhoi gwaed i gefnogi ymgyrch rhoi
Arall Pobl a lle
Awst 26, 2026
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor
Awst 25, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Awst 25, 2026
Dim newidiadau i gasgliadau biniau dros ŵyl banc mis Awst
Y cyngor

Dim newidiadau i gasgliadau biniau dros ŵyl banc mis Awst

Awst 24, 2026
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Y cyngor

Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan

Awst 18, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English