Ydych chi eisiau gwneud rhywbeth newydd a gwahanol ond ddim yn gwybod lle i ddechrau?

Os felly yna byddai ymweliad â Llyfrgell Wrecsam ar 17 Mai yn lle da i ddechrau.

Mae’r Brifysgol Agored yn cynnal Diwrnod Agored i siarad am y cyrsiau sy’n dechrau’r Hydref hwn.

EWCH YN WYRDD – DEWISWCH FILIAU TRETH CYNGOR DI-BAPUR…

Mae’n gyfle i gwrdd â staff a chael atebion i unrhyw gwestiynau sydd gennych. Gallwch hefyd ddod o hyd i ffyrdd newydd i dalu am eich astudiaethau a gweld eu hadnoddau ardderchog ar-lein.

Dim angen apwyntiad ond galw heibio rhwng 10am a 5pm.

Mwy o wybodaeth yn http://www.open.ac.uk/wales/cy/digwyddiadau.

Cyflym, effeithlon ac yn dda am yr amgylchedd – dewiswch filiau Treth Cyngor di-bapur trwy FyNghyfrif

COFRESTRWCH AM FILIAU DI-BAPUR