Ydych chi’n barod i adael y Lluoedd Arfog a newid eich gyrfa?
Gall hyn fod yn benderfyniad mawr i’w wneud, yn enwedig os ydych wedi bod yn y Lluoedd Arfog ers nifer o flynyddoedd. Y newyddion da yw fod help ar gael er mwyn i chi allu penderfynu ar eich cam nesaf, eich cyfeirio at bobl a chwmnïau sy’n gallu helpu i roi mynediad at yr hyfforddiant y byddwch ei angen o bosibl.
Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.
Mae Gwasanaeth Ail-setlo Lluoedd Prydain (BFRS) yn cynnig lle gwych i ddod o hyd i gyfleoedd gwaith a hyfforddiant mewn gyrfaoedd y gallech fod wedi meddwl amdanynt, neu rai nad ydych wedi eu hystyried o gwbl efallai.
Menter gymdeithasol yw’r BFRS a grëwyd i weithio er mwyn cefnogi Cymuned y Lluoedd Arfog; eu cynnal drwy weithio gyda chwmnïau ledled y DU.
Dywedodd y Cyng. David Griffiths, Cefnogwr y Lluoedd Arfog: “Gall fod yn brofiad brawychus i adael y lluoedd arfog, yn enwedig os ydych chi’n ansicr neu’n teimlo eich bod heb baratoi. Mae gwefan y BFRS yn cynnig rhestr o swyddi gwag cyfredol; gallwch ddarganfod cyfleoedd hyfforddiant a ffeiriau gyrfaoedd, diwrnodiau agored cwmnïau ac adnoddau eraill fel cyngor ar ysgrifennu CV.”
Beth am gychwyn drwy edrych ar BFRS website i ddarganfod cysylltiadau defnyddiol, gwybodaeth am ddigwyddiadau, swyddi a hyfforddiant. Gallwch ddarllen eu cylchgrawn hefyd, New Challenge, New Beginnings i ddarllen am gyflogwyr posibl a straeon gan eraill yng nghymuned y Lluoedd Arfog sydd eisoes wedi dod at y BFRS am help a chyngor.
Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF