Roedd dros 150 o fusnesau lleol yn bresennol ym brecwast busnes diweddar Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy, i glywed gan fentrau bach a chanolig am eu profiadau a’u llwyddiannau.
Cafwyd cyflwyniadau gan nifer o fusnesau a mannau arddangos ble gallai busnesau arddangos eu hunain a rhwydweithio ag eraill.
Noddwyd y digwyddiad yn garedig iawn gan Net World Sports.
Dywedodd y Cyng. Nigel Williams, Aelod Arweiniol yr Economi ac Adfywio, “Roedd hwn yn ddigwyddiad gwych, gyda phresenoldeb da gan tua 150 o fusnesau o Wrecsam ac ardaloedd cyfagos Cynghrair Merswy a’r Ddyfrdwy.
“Mae’r mathau hyn o ddigwyddiadau’n amhrisiadwy i fusnesau a sefydliadau ddod at ei gilydd i gydweithio a chefnogi’r naill a’r llall a chafodd 10 cwmni gyfle i roi cyflwyniad byr i’r grŵp am eu busnes a chafodd eraill gyfle i gael stondin arddangos.
“Roedd y rhai oedd yno yn croesawu’r digwyddiad ac roedd llawer o egni yn yr ystafell a gwnaed cysylltiadau da.
“Hoffwn ddiolch yn bersonol i dîm cymorth busnes cyngor Wrecsam am drefnu a diolch yn arbennig i Net World Sports am gael cynnal y digwyddiad yno.”
Ymhlith y rhai oedd yn bresennol roedd cynrychiolwyr o Entyce Creative, Prifysgol Bangor, Outwrite PR, Coleg Cambria a Siambr Fasnach Gorllewin Swydd Gaer a Gogledd Cymru.
Ynglŷn â’r Brecwast Busnes
Mae’r brecwastau busnes yn cael eu cynnal bob yn ail fis mewn lleoliadau gwahanol yn rhanbarth Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy gyda’r prif nod o wella perfformiad busnes, drwy ddarparu cyfleoedd rhwydweithio busnes i fusnes a gwybodaeth ar fentrau rhanbarthol a chenedlaethol.
Os hoffech gymryd rhan, cysylltwch â business@wrexham.gov.uk.
Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.
Mae’n bosibl yr hoffech ddarllen hefyd am XGas yn dathlu 20 mlynedd o fusnes yn Wrecsam – Newyddion Cyngor Wrecsam.