Mae miloedd o e-sigaréts tafladwy wedi’u hatafaelu yn Wrecsam. Mae Swyddogion Safonau Masnach Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd y Cyngor wedi tynnu e-sigaréts oddi ar silffoedd manwerthwyr amrywiol ar draws y fwrdeistref.
Am resymau iechyd, mae gwerthu e-sigaréts sy’n cynnwys nicotin (ac mae’r rhan fwyaf yn cynnwys nicotin) wedi’i reoli gan gyfreithiau sy’n cyfyngu ar gryfder a maint y cynnyrch, ac mae hi’n anghyfreithlon gwerthu e-sigaréts sy’n cynnwys mwy na 20mg/ml o nicotin a mwy na 2ml o hylif. Mae hefyd yn anghyfreithlon gwerthu e-sigaréts heb rybuddion iechyd.
Ydych chi’n ddioddefwr siarc benthyg arian? Ffoniwch 0300 123 311.
Mae gweithwyr iechyd proffesiynol yn cefnogi defnyddio e-sigaréts fel ffordd effeithiol i stopio ysmygu, a dengys tystiolaeth bod eu defnyddio yn gweithio. Fodd bynnag, mae yna bryder bod pobl nad ydyn nhw’n ysmygu yn defnyddio e-sigaréts, gan gynnwys plant sy’n cael eu denu gan y cynnyrch sy’n edrych yn cŵl ac sydd ar gael mewn sawl blas gwahanol.
Mae argaeledd y math o gynnyrch anghyfreithlon a gafodd ei atafaelu yn ychwanegu at y broblem.
Mae ymholiadau ynglŷn â’r cynnyrch sydd wedi’i atafaelu yn parhau. Mae manwerthwyr yn derbyn cyngor ar y gofynion cyfreithiol ac i brynu cynnyrch gan gyfanwerthwyr cyfrifol yn unig. Mae’r rheiny sy’n torri’r gyfraith yn barhaus neu’n anwybyddu’r cyngor a ddarperir mewn perygl o erlyniad yn ogystal â fforffedu cynnyrch anghyfreithlon sy’n cael ei atafaelu.
Meddai Roger Mapleson, Arweinydd Safonau Masnach a Thrwyddedu: “Mae’n bwysig iawn deall bod e-sigaréts sy’n cynnwys nicotin yn gallu helpu pobl i roi’r gorau i ysmygu.
“Fodd bynnag mae cryfder a maint y cynnyrch anghyfreithlon sydd ar gael ar y farchnad yn destun pryder. Ar ben hyn, mae pecynnau’r cynnyrch yn ddeniadol, mae sawl blas gwahanol ar gael ac maen nhw’n cael eu marchnata’n bwerus ar y cyfryngau cymdeithasol.
“Mae gennym ni bryderon difrifol ynghylch pobl nad ydyn nhw’n ysmygu, yn enwedig plant, yn cael eu hudo gan y cynnyrch yma ac yna’n mynd yn ddibynnol ar nicotin. Mae’r neges yn glir, os nad ydych chi’n ysmygu peidiwch â defnyddio e-sigaréts.”
Mae’r gyfraith hefyd yn ei gwneud yn anghyfreithlon gwerthu e-sigaréts nicotin i unrhyw un dan 18 oed. Os ydych chi’n gwybod am fanwerthwr sy’n gwerthu i blant neu’n gwerthu e-sigaréts anghyfreithlon, gallwch gysylltu â:
Gwasanaethau Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1144 (Cymraeg) neu 0808 223 1133 (Saesneg).
HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI