Hoffem atgoffa ein preswylwyr sydd wedi tanysgrifio i’r gwasanaeth casglu gwastraff gardd y byddwn yn casglu eich bin(iau) gwyrdd bob pythefnos eto o fis nesaf (Mawrth).
Roedd cael casgliadau gwastraff gardd yn Rhagfyr, Ionawr a Chwefror yn caniatáu i ni roi amser i staff ddelio gyda materion problematig a achoswyd gan y gaeaf, megis llwybrau graeanu neu waith cynnal a chadw cyffredinol.
Ond wrth i ni symud tuag at y gwanwyn, gobeithio y bydd yn cynhesu rhywfaint a bydd preswylwyr yn gallu defnyddio eu bin(iau) gwyrdd yn amlach, felly bydd y casgliadau hyn yn dychwelyd yn ôl i bob pythefnos o fis Mawrth ymlaen.
Gwasanaeth casglu gwastraff gardd 25/26
Mae’r cyfnod adnewyddu ar gyfer y flwyddyn wasanaeth nesaf bellach ar agor, felly ewch i wrecsam.gov.uk/gwastraffgardd i wneud eich taliad ar-lein. Dyma’r ffordd gyflymaf a hawsaf, a gallwch ei wneud ar adeg sy’n gyfleus i chi. Ond gwnewch yn siŵr eich bod wedi cofrestru mewn digon o amser i osgoi colli unrhyw gasgliadau pan fydd y gwasanaeth yn dechrau ym mis Ebrill.
Y gost ar gyfer 2025/26 yw £35 fesul bin gwyrdd y flwyddyn, ac mae’r gwasanaeth yn rhedeg o ddydd Mawrth 1 Ebrill 2025 tan ddydd Mawrth 31 Mawrth 2026. Byddwn yn parhau i adolygu’r gwasanaeth yn y dyfodol.
Mis Mawrth 2025 am ddim
Trwy ddechrau’r flwyddyn wasanaeth nesaf ym mis Ebrill, mae’n golygu y bydd y rheiny sy’n tanysgrifio i’n gwasanaeth gwastraff gardd presennol yn elwa o fis ychwanegol o gasgliadau am ddim.
Roedd disgwyl i’r gwasanaeth presennol ddod i ben ar 28 Chwefror, ond mae hyn wedi cael ei ymestyn ymhellach. Os ydych wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth casglu gwastraff gardd presennol, bydd eich biniau gwyrdd yn parhau i gael eu casglu tan 31 Mawrth 2025.
Darllenwch fwy: Y cyfan sydd angen i chi ei wybod am adnewyddu eich tanysgrifiad gwastraff gardd – Newyddion Cyngor Wrecsam
Adnewyddwch eich casgliadau bin gwyrdd ar gyfer 2025/26 – bydd y casgliadau’n dechrau ym mis Ebrill!