Erthyl Gwadd | FOCUS Wales
Fe fydd FOCUS Wales yn croesawu 20,000 o gefnogwyr a bydd dros 250 o actau newydd o Gymru a phob cwr o’r byd yn cyrraedd Wrecsam ar gyfer yr ŵyl rhwng 4 a 6 Mai.
Ymhlith y perfformwyr newydd a gyhoeddwyd heddiw, mae…yr artist alt-pop Ailsa Tully, ManLikeVision, a enwebwyd ar gyfer Gwobr Gerddoriaeth Gymraeg, band roc garej The Family Battenberg, artist electro dream pop Bethan Lloyd, enw hip hop mawr Casnewydd, OGUN, a seren newydd sîn alt-werin Cymru, Mari Mathias. Mae pob un ohonynt yn cynrychioli amrywiaeth newydd o artistiaid Cymreig ar amserlen yr ŵyl.
Mae amrywiaeth o enwau rhyngwladol newydd yn ymuno â nhw, gan gynnwys y band ôl-pync o Awstralia, DUST, band pync egnïol Efrog Newydd, Mary Shelley, a pherfformiadau arbennig gan The Spanish Wave ac EarUp Hong Kong. Maen nhw’n ymuno â restr ddisglair o artistiaid a gyhoeddwyd eisoes, gan gynnwys The Coral, Billy Nomates, Adwaith, Squid, Dream Wife, The Joy Formidable, a Neue Grafik Ensemble, ymhlith eraill.
Mae’r rhestr o artistiaid newydd a gyhoeddwyd heddiw yn cynnwys:
2080s | Adjua | AEIOU | Ailsa Tully | Alekxandr | Alien Feelings | Alpha Chino | Bedroom Party | Benjamin J Wilson | Benzy | Bethan Lloyd | Black Maracas | Breichiau Hir | C.F. Boneslum | Choirs for Good Wrexham | Chris Ingram | Cloudsurfers | Cor DAW | Declan Swans | Dienw | DUST | Dynamic Wrexham BSL Choir | Elise Boeur & Adam Iredale-Gray | Evrah Rose | Eyesore & The Jinx | FARCE | George Borowski | GUINEU | Heaven For Real | Invisible Architecture | James Wood | Jimbo | JP | KOMOREBI | Los Premios | Luke RV | Lunar Bird | Mali Haf | ManLikeVision | Mari Mathias | Mary Shelley | Massimo Silverio | Mechanical Owl | Megan Lee | Mellt | Murder Club | Natasha Borton | Noah and the Loners | Noah Bouchard | Nudist | Ogun | Private Party | Prune Deer | Rebecca Hurn | skylrk. | Sleeping Together | tAngerinecAt | The Family Battenberg | The Welcome Party | Tom Emlyn | TUKAN | Unity, Samhain & Ostara Days | Valentinskka | Vanille | VOYA | Worldcub | Xenith | Xtie a MWY
Gydag artistiaid o: Awstralia | Awstria | Canada | Catalonia | De Corea | Ffrainc | Gini | Gwlad Belg | Hong Kong | India | Iwerddon | Japan | Liechtenstein | Lloegr | Madagascar | Mecsico | Portiwgal | Sbaen | Seland Newydd | Sweden | Taiwan | UDA | Wcráin | Ynysoedd Baleares | Yr Alban | Yr Eidal | a’r Iseldiroedd a mwy i’w cyhoeddi!
Gyda thua 500 o weithwyr proffesiynol rhyngwladol o’r diwydiant yn mynychu gŵyl 2023, FOCUS Wales yw digwyddiad mwyaf y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru bellach, gyda thri diwrnod llawn o baneli, sgyrsiau gan brif siaradwyr a rhwydweithio.
Mae rhagor o gynrychiolwyr o’r diwydiant wedi’u cyhoeddi heddiw hefyd, gan gynnwys: Dev Sherlock (SXSW, UDA), Emma Zillmann (Live Nation), Milan Simas (M for Montreal), Jason Mayall (Fuji Rock, Japan), a Phyllis Belezos (Heliocentric Entertainment), a llawer mwy.
Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.
RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD