Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn cynnal mwy o sesiynau rhoi gwaed yn Wrecsam ym Mhrifysgol Glyndŵr ar 23, 24, 25 a 26 Mehefin ac yn y Neuadd Goffa ar 29 a 30 Mehefin ac 1 a 2 Gorffennaf.
Cynhelir y sesiynau rhwng: 12:00 – 15:00 a 16:00 – 19:30 a thrwy apwyntiad yn unig.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
Gallwch drefnu apwyntiadau ym Mhrifysgol Glyndŵr, Wrecsam drwy glicio ar y dolenni isod:
Neu yn y Neuadd Goffa:
Os ydych chi’n heini ac yn iach, ystyriwch wneud apwyntiad. Mae rhoi gwaed yn cael ei ystyried yn siwrnai hanfodol ac mae’n hollbwysig bod stociau yn cael eu cynnal yn ystod y cyfnodau anodd hyn.
“Diolch yn fawr iawn i Wrecsam am y gefnogaeth a’u parodrwydd i roi gwaed”
Roedd nifer dda yn bresennol yn y sesiynau diwethaf ym mis Mai gyda 125 o gyfraniadau wedi eu casglu a 35 o roddwyr newydd wedi mynychu. Bu iddynt hefyd ychwanegu 7 enw newydd at y gofrestr rhoddwyr mêr esgyrn 🙂 ac mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn diolch yn fawr i’r holl roddwyr yn Wrecsam am eich cefnogaeth barhaus.
Bydd canllawiau iechyd cyhoeddus o ran cadw pellter cymdeithasol mewn grym. Bydd llai o apwyntiadau na’r sesiynau rhoi gwaed arferol.
Mae trallwysiadau gwaed yn dal i ddigwydd bob dydd.
Allech chi sbario dim ond 1 awr i achub 3 bywyd?💗Cliciwch yma i rhoi gwaed yn Wrecsam
Prifysgol Glyndwr: https://t.co/vP3ABBWrpb
Wrecsam Neuadd Goffa: https://t.co/3QkqK0MYq0 pic.twitter.com/Cq8xjlp47O
— Betsi Cadwaladr (@BetsiCadwaladr) June 16, 2020
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19